Bydd Prif Weinidog Cymru yn cwrdd â Chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC y prynhawn yma i drafod ei bryderon ynglŷn â dyfodol darlledu yng Nghymru.
Yn ei gyfarfod â’r Arglwydd Patten, bydd Carwyn Jones yn amlinellu ei bryderon ynglŷn â newidiadau i S4C, ynghyd â thoriadau i wasanaethau’r BBC yng Nghymru.
Dywedodd y byddai’n “atgoffa Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth mor bwysig yr ydyn ni’n gweld y bartneriaeth newydd rhyngddyn nhw ac S4C.
“Mae’n hanfodol bod y ddau gorff yn adeiladu ar y cytundeb newydd a gafwyd rhyngddyn nhw ar ddiwedd 2011,” meddai.
BBC/S4C – manteision i bawb medd Ian Jones
Mae Prif Weithredwr newydd S4C yn dweud ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda’r BBC dros y blynyddoedd nesaf, a bod manteision mawr i S4C o’r berthynas.
Dywedodd Ian Jones ei fod wedi bod yn cwrdd â phobol di-ri yn rhinwedd ei swydd newydd dros yr wythnos ddiwethaf, ac yn eu plith, aelodau blaenllaw o’r BBC Prydeinig a Llywodraeth San Steffan.
Yn ôl Ian Jones, mae’r cyfarfodydd hynny wedi ei galonogi, ac mae’n dweud ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gydag un o “frandiau cyfryngol mwyaf y byd.”
‘Cydweithio’
Wrth siarad â Golwg 360 ddoe, dywedodd y Prif Weithredwr newydd ei fod eisoes wedi bod yn siarad â Chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Lord Patten, a Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, a’u bod wedi addo’u cefnogaeth iddo.
“Dwi’n edrych ymlaen i gydweithio gyda’r BBC,” meddai.
“Y BBC yw un o frandiau cyfryngol mwyaf y byd, a d’oes bosib na allwn ni weithio gyda’r BBC yn lleol fel bod yna fanteision iddyn nhw, a bod ’na fanteision i ni.”
Dywedodd hefyd fod y setliad ariannol i S4C gan y BBC yn ddigonol, cyhyd â bod y sianel wedi paratoi ar gyfer y gostyngiad o £102 miliwn y flwyddyn eleni, i £76 miliwn y flwyddyn erbyn 2017.
“Mae cael gwybod beth fydd y setliad pum mlynedd o flaen llaw yn fantais mawr.. mae’n galluogi ni i gynllunio o flaen llaw gyda’r sector a gyda’r BBC,” meddai.
“Rhaid nawr gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau, a gwneud i’r adnoddau weithio’n galed, ac i gyflenwi lot mwy i ni na falle maen nhw wedi cyflenwi yn y gorffennol.”
‘Cyrraedd pob rhan o Gymru’
Wrth drafod ei weledigaeth ar gyfer S4C ddoe, dywedodd Ian Jones wrth Golwg 360 ei fod yn gobeithio darparu gwasanaeth fydd yn apelio at bobol o bob rhan o Gymru, er gwaetha’r toriadau.
“Mae’n bwysig ar sgrîn, a’r adnodau tu ôl i’r sgrîn, ein bod ni’n cynrychioli Cymru gyfan,” meddai.
Er hynny, dywedodd fod penderfyniad cwmni teledu Tinopolis i gau eu swyddfa yn y gogledd yn adlewyrchu’r sefyllfa economaidd presennol, sydd wedi gorfodi cwmniau i dorri’n ôl.
“Dwi’n cydymdeimlo’n fawr ’da Tinopolis, maen nhw wedi gorfod gwneud penderfyniadau dewr a chaled, ond yn yr hinsawdd economaidd presennol ma’ raid i ni,” meddai.
“Beth sy’n bwysig yw bod Tinopolis yn hapus ’da’r rhaglen maen nhw’n darparu ar gyfer y sgrin a bod yr adran rhaglenni yma yn S4C hefyd yn hapus hefyd.
“Ma gynnon ni hyn a hyn o gyllid,” meddai, “rhaid ffeindio ffyrdd o gydweithio i wneud hynny’n bosib.”
Ond dywedodd y Prif Weithredwr newydd ei fod yn edrych ymlaen at yr her, ac na fyddai wedi gadael swydd yn Efrog Newydd, oedd yn talu cyflog “sylweddol” uwch, os na fyddai’n teimlo’n barod am y swydd.
“Dau gwestiwn oedd gen i wrth ystyried mynd am y swydd, yn gyntaf, a fydde’r swydd yma’n dod fyny eto yn ystod fy ngyrfa i? Ac a fydde fe’n fwy o her nawr nag yn y dyfodol,” meddai.