Meryl Gravell
Mae cynlluniau ar waith i geisio gorfodi arweinydd Cyngor Sir Gâr i gamu lawr, ar ôl honiadau ei bod wedi beio staff y Cyngor am holl broblemau’r sir.

Mae grŵp Plaid Cymru yn y Cyngor wedi cynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn y cynghorydd Meryl Gravell, sy’n aelod annibynnol o’r grŵp sy’n rheoli gyda Llafur.

Mae’r cynnig wedi cael ei wneud ar ôl i fideo ymddangos o’r Cynghorydd Meryl Gravell yn awgrymu nad oedd aelodau’r Cyngor yn gweithio mor galed ag y dylen nhw.

Yn yr araith, a wnaed i ‘Ganolfan Choose Life’ yn Llanelli ar 12 Ionawr eleni, dywedodd Meryl Gravell fod gan staff y Cyngor lawer i’w ddysgu gan reolwr y Ganolfan, Alan Andrews.

“Petai’r naw mil o weithwyr sydd ganddon ni yn gweithio mor galed ag Alan, mor frwdfrydig ag Alan… byddai dim un problem yn y Cyngor. Ond dyna ni, r’yn ni pwy y’n ni,” meddai.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr, Peter Hughes Griffiths, heddiw fod “beio naw mil o weithwyr y Cyngor Sir am broblemau’r Cyngor… yn osodiad atgas ac yn dangos anfri annerbyniol tuag at y staff ac aelodau Cyngor Sir Caerfyrddin.”

Ond wrth ymateb i sylwadau gan Peter Hughes Griffiths heddiw, dywedodd Meryl Gravell fod y cynghorydd yn ceisio “ennill pwyntiau gwleidyddol” trwy dynnu sylw at y digwyddiad.

Cyfaddefodd, fodd bynnag, bod ei geiriau wedi eu “dewis yn annoeth, ond doedd dim bwriad beirniadu staff y cyngor mewn unrhyw ffordd, dim ond amddiffyn Alan a staff Chooselife sydd wedi cael amser mor galed.”

Dywedodd hefyd ei bod wedi “ymddiheuro’n gyhoeddus ac yn uniongyrchol i staff am unrhyw gamddealltwriaeth.”

Beiriadu’r ‘dihirod’

Mae Arweinydd y Cyngor hefyd wedi cael ei beriniadu am gyferio at y protestwyr tu allan i’r ganolfan, a ddaeth ynghyd ar y diwrnod i wrthwynebu cau Uned Ddamweinidau ac Argyfwng Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli, fel y “rabble.

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones ar ymweliad â’r ysbyty a’r ganolfan ar y pryd.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths fod y sylwadau’n “adlewyrchu’n ddrwg ar yr awdurdod hwn ac yn dangos agwedd warthus tuag at weithwyr y Cyngor Sir a phobl Sir Gaerfyrddin yn gyffredinol.”

Ond mynnodd Meryl Gravell heddiw fod ei sylwadau am y “rabble” wedi eu cyfeirio’n uiniongyrchol at “y grŵp bychan o bobol oedd wedi troi fyny i heclo Alan a’r staff.”

Mae Meryl Gravell wedi bod yn arweinydd Cyngor ers 13 mlynedd bellach, ond gyda mwyafrif o 30 aelod, allan o Gyngor o 73, yn perthyn i Blaid Cymru, ac adroddiadau bod rhai cynghorwyr annibynnol yn bwriadu cefnogi’r bledlais, gallai dyfodol Meryl Gravell yn y Cyngor Sir fod yn y fantol.

Bydd y cynnig o ddiffyg hyder yn cael ei roi gerbron holl aelodau Cyngor Sir Gaerfyrddin brynhawn dydd Mercher.

Rhan o’r araith: