Lesley Griffiths
Mae’r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi lansio ymgyrch i geisio denu mwy o feddygon i weithio yng Nghymru.

Daw’r ymgyrch wrth i ffigyrau newydd ddangos fod yna 201 o swyddi meddygol yn cael eu hysbysebu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef bod yna rai swyddi arbenigol, ac ardaloedd o Gymru, lle fu yna “broblemau parhaol” wrth geisio llenwi’r swyddi.

Gwefan

I geisio datrys y broblem, bydd yr ymgyrch ‘Gweithiwch i Gymru’ yn cael ei gynnal dros y 12 i 18 mis nesaf.

Bydd gwefan arbennig yn hybu Cymru, ac yn ceisio gweddnewid camsyniadau sydd gan bobl am Gymru a’i gwasanaethau iechyd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd fod “Cymru, fel nifer o ardaloedd eraill yn y DU, yn wynebu her wrth geisio denu meddygon i rai lleoliadau, ac mewn rhai meysydd arbenigol.

“Mae datblygiad y safle we newydd yn un rhan yn unig o’r ymdrechion i ddenu mwy o feddygon i Gymru.”

Digon i’w gynnig

Dywedodd Helen Birtwhistle, cyfarwyddwr Ffederasiwn GIG Cymru, fod gan Gymru ddigon i’w gynnig.

“Mae’r GIG yng Nghymru yn gweithredu newidiadau mentrus a dyfeisgar er mwyn gwella’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu cyflawni.

“Mae’n cymryd hyd at 15 mlynedd i hyfforddi doctor – ond mae’r ymgyrch yma yn cychwyn proses hir i hybu Cymru fel lle gwych i fyw, a GIG Cymru fel lle gwych i ddatblygu gyrfa feddygol.”

Beirniadu’r ymgyrch

Ond mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams wedi beirniadu ymgyrch y Gweinidog Iechyd.

“Mae’r diffyg manylder a gwybodaeth yn drewi o gynllunio gwael a chyhoeddiadau brys,” dywedodd Kirsty Williams.

“Mae yna brinder difrifol o feddygon ac ymgynghorwyr yng Nghymru. Mae hyn yn arwain at gau ysbytai dros dro, sy’n cael effaith niweidiol ar ddiogelwch a gofal cleifion,” meddai.

Rhaid gwneud nid dweud

“Rydym ni wedi bod yn annog y Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd i ddechrau ar y gwaith ymgyrchu yma, yn hytrach na dim ond siarad am y peth.

“Byddaf yn gofyn i i’r Gweinidog Iechyd os yw hi wedi gosod targedau er mwyn mesur llwyddiant yr ymgyrch, a byddwn yn monitro llwyddiant yr ymgyrch dros y misoedd nesaf.”