Mae prif gwnstabl Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio y bydd rhaid torri swyddi, cau gorsafoedd, a chael gwared ar hofrennydd yr heddlu os na fyddan nhw’n derbyn cynnydd o 5% o leia’ yn eu cyfraniad o dreth y cyngor.

Dywedodd y prif gwnstabl, Ian Arundale, fod angen y cynnydd nid er mwyn datblygu’r gwasanaeth, ond er mwyn gwarchod y gwasanaeth yn wyneb toriadau o 20% gan Lywodraeth San Steffan.

Gwnaeth y sylwadau mewn araith i brif-weithredwyr cynghorau Sir Gâr, Sir Benfro, Powys a Cheredigion.

Mynnodd nad “codi bwganod” oedd ei rybudd, ond ei fod “wirioneddol yn poeni sut y byddwn ni’n gallu gwarchod ein cymunedau’n effeithiol a dod â throseddwyr i’r fei os oes raid i ni dorri rhagor ar ein cryfder.

“Mae’r creisis ariannu yn adeg o newid gwirioneddol ar gyfer heddlua yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a dyna pam dwi’n apelio ar ein gwleidyddion i roi 5% o gynnydd i ni yn yr arian o dreth y cyngor, er mwyn i ni gael parhau i warchod ein cymunedau.”

Bydd yn rhaid i Heddlu Dyfed Powys ddod o hyd i arbedion gwerth £24 miliwn erbyn 2015, a £13 miliwn bob blwyddyn wedi hynny.

Dywedodd Ian Arundale y byddai’n rhaid ystyried cyfres o fesurau i dorri costau pe na byddai’r heddlu’n derbyn y 5% o gynnydd.

Dywedodd y gallai’r toriadau olygu bod swyddogion gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad yn gorfod ymddeol, byddai’n rhaid cau gorsafoedd heddlu, ac atal hofrennydd yr heddlu.

“Dwi’n croesawu’r cydymdeimlad gan bob un o’r cynghorau i fy nghais, “meddai. “Ond dylai neb fod dan gamargraff fan hyn, mae’n dal rhai i ni dorri costau yn sylweddol ond o leia’ byddai 5% o gynnydd yn y dreth yn golygu na fyddai’n sefyllfa ni yn mynd dim gwaeth.

“Mae awdurdodau lleol yn deall bod creisis ariannol yn bwrw’r heddlu’n galed, er bod heddlua a thaclo troseddu yn dal yn flaenoriaeth i’r cyhoedd.”

Dywedodd llefarydd cartref Llafur yn San Steffan, Yvette Cooper, fod rhybudd Ian Arundale yn peri pryder mawr.

“Dylai ‘pryder gwirioneddol’ gan Brif Gwnstabl heddlu ynglŷn â’r gallu i warchod cymunedau a dod â throseddwyr i’r fei fod yn neges i ysgwyd Theresa May a’r Llywodraeth,” meddai.

“Byddai’n afresymol iddi anwybyddu’r rhybuddion difrifol yma gan benaethiaid yr heddlu.”