Y Cynghorydd Marc Jones o Blaid Cymru
Mae Cadeirydd Canolfan Gymraeg Wrecsam wedi dweud bod Canolfan Iaith newydd sy’ wedi ei sefydlu heb geiniog o grant wedi cael cefnogaeth “anhygoel”, gyda’r tocynnau ar gyfer y gig agoriadol heno wedi gwerthu allan.
Saith Seren yw Canolfan Gymraeg newydd Wrecsam, yn agor ei drysau gwta chwe mis ar ôl lansio’r apêl am arian yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Y llwyddiant mwyaf dw i’n meddwl yw’r ffaith ein bod wedi llwyddo i agor chwe mis ar ôl lansio apêl,” meddai Marc Jones y Cadeirydd. “Rydan ni wedi llwyddo agor heb geiniog o grant cyhoeddus. Dw i’n meddwl bod hynny yn arwydd o ymrwymiad pobl Wrecsam a phobl tu draw i Wrecsam.
“Mae lot o’r di-Gymraeg wedi rhoi pres hefyd. Lot sydd eisiau gweld tafarn gofrestredig yn ailagor yn y dref.”
Dywedodd ei fod yn credu bod Wrecsam yn “symud i’r cyfeiriad iawn gyda’r Gymraeg”.
“Dw i’n credu ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad iawn o ran ewyllys da yn sgil yr Eisteddfod, Saith Seren ac ysgol newydd Gymraeg. Dw i’n teimlo bod Wrecsam yn Cymreigio yn raddol bach,” meddai.
Y cam nesaf fydd adnewyddu’r adeiladu i fyn’r grisiau a’i agor fel swyddfeydd ar rent ac ystafelloedd cyfarfod/dosbarthiadau nos. Bydd cronfa cyfranddaliadau newydd yn cael ei agor gyda phrosbectws newydd yn y mis nesaf.