Dywed y gweinyddwyr sydd wedi eu penodi gan gwmni Peacocks eu bod nhw wedi cael ymateb da iawn gan gwmniau sy’n awyddus i brynu’r busnes.

Dywedodd KPMG eu bod nhw wedi cynnal mwy na 100 o drafodaethau gyda phrynwyr posib am y cwmni dillad, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd.

Cafodd Peacocks, sydd â 563 o siopau a 48 o gonsesiynau, a’r rhiant gwmni Grŵp Peacocks,  ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr wythnos diwethaf ar ôl i’r cwmni fethu â dod i gytundeb gyda’r banciau ynglŷn â’i ddyledion o £750 miliwn.

Mae KPMG eisoes wedi cyhoeddi bod 249 o swyddi’n cael eu colli ym mhencadlys Peacocks yng Nghaerdydd.

Bonmarche

Cafodd cwmni ffasiwn Bonmarche, a oedd yn rhan o Grŵp Peacocks, ei werthu yn gynharach yr wythnos hon mewn cytundeb a fydd yn golygu bod 1,400 yn colli eu swyddi a 160 o’i siopau’n cau. Roedd y cwmni Sun European Partners wedi prynu 230 o’r siopau ac fe fydd yn parhau i gyflogi 2,400 o staff.

Mae adroddiadau bod Poundland a Tesco yn ystyried prynu rhan o portffolio Grŵp Peacocks os na fydd KPMG y gallu dod o hyd i brynwr ar gyfer y cwmni.

Mae’r gweinyddwyr wedi dweud mai dydd Llun fydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i brynu’r grŵp.