Carwyn Jones - angen paratoi
Mae Prif Weinidog Cymru’n dweud bod angen dechrau paratoi’n awr ar gyfer y posibilrwydd o Alban annibynnol.
Ond mae Carwyn Jones wedi gwrthod y syniad o ddatganoli rhai o’r prif drethi i Gymru – o leia’ nes y bydd y wlad yn cael “cyllid teg” o Lundain.
Fe ddylai’r ddadl am ddyfodol yr Alban fod yn fater i wledydd Prydain i gyd, meddai’r Prif Weinidog ar Radio Wales.
“All Cymru ddim eistedd yn ôl a gadael i bethau ddigwydd,” meddai. “Does gyda ni ddim ateb ar hyn o bryd ond mae’n rhaid i ni ddechrau gweithio arno fe’n awr.
“Y peth ola’ r’yn ni’n mo’yn yw fod y ddadl hon yn crisialu yn ddadl rhwng Lloegr a’r Alban. Rhaid i ni ddechrau meddwl am y peth nawr, nid ymhen dwy flynedd.”
‘Dim datganoli-macs i Gymru’
Fe wrthododd y syniad o ‘ddatganoli macs’ i Gymru, gan gynnwys rhoi grym i godi rhai o’r prif drethi, fel treth incwm a threth gorfforaethol.
Roedd Cymru’n cael cam o ran yr arian sy’n dod o Lundain, meddai, ac fe fyddai derbyn hynny a threthu pobl yr un pryd yn gamgymeriad.
Er bod Comisiwn Silk ar hyn o bryd yn ystyried materion o’r fath, fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai’n ystyried datganoli rhai o’r trethi llai, ond dim arall – cael cyllid teg oedd bwysica’.