Y pedwar ymgeisydd
Fe fydd yr enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr am arweinyddiaeth Plaid Cymru yn cau am hanner nos heno.
Y pedwar sydd yn y ras yw Aelod Canol De Cymru Leanne Wood; Aelod Ceredigion, Elin Jones; Aelod Dwyfor Meirionnydd, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas; ac Aelod Canolbarth a Gorllewin Cymru Simon Thomas.
Ddoe, roedd Plaid Cymru wedi cyflwyno neges munud olaf yn annog pobl i ymaelodi cyn hanner nos heno i gael pleidleisio am arweinydd newydd i Blaid Cymru i olynu Ieuan Wyn Jones.
Mae nhw wedi anfon negeseuon allan drwy neges destun, e-bost a drwy Facebook a Twitter i ddegau o filoedd o gefnogwyr yn eu gwahodd i ymuno a’r Blaid erbyn hanner nos.
Mae’r Blaid eisoes wedi gweld “cynnydd sylweddol yn ei aelodaeth dros y tri mis diwethaf,” medden nhw.
Fe gyhoeddodd Ieuan Wyn Jones ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau i’w swydd fel arweinydd y blaid ym mis Mai yn dilyn Etholiad Cyffredinol Cymru yn 2011.
Bydd enw’r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar 15 Fawrth yng Nghaerdydd.