Mewnblaniadau silicon
Mae pennaeth cwmni Ffrengig, sy’n wynebu honiadau o ddarparu mewnblaniadau diffygiol sydd wedi effeithio degau o filoedd o ferched, wedi cael ei arestio.

Dywed yr heddlu bod Jean-Claude Mas – oedd yn rhedeg cwmni Poly Implant Prothese (PIP) – wedi cael ei arestio yn ei gartref yn nhre Six-Fours-Les-Plages yn Ffrainc yn gynnar bore ma.

Cafodd y mewnblaniadau eu tynnu oddi ar y farchnad mewn nifer o wledydd gan gynnwys y DU oherwydd pryderon y gallen nhw  ollwng silicon i’r corff.

Mae’r sgandal wedi achosi ffrae ynglŷn â phwy ddylai dalu am dynnu’r mewnblaniadau neu a oes angen  eu tynnu o gwbl.

Cafodd y cwmni ei gau ym mis Mawrth 2010. Yn ôl gwefan y cwmn i, roedd PIP yn allforio’r mewnblaniadau i fwy na 60 o wledydd.