Mae’r Heddlu yn ymchwilio  i farwolaeth dynes yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r Heddlu wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad ar ol dod o hyd i gorff dynes 67 blwydd oed yn Sir Gâr.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, fe gafodd ei chorff ei ddarganfod mewn adeilad ar Ystâd Bryndulais yn Llanllwni ger Llanybydder.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.