Mae ASau Llafur Cymru wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth San Steffan, Vince Cable, yn galw arno i gymryd camau i achub cwmni Peacocks.
Mae’r ASau wedi mynegi eu pryder at y ffaith y gallai cwmni Peacocks, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, gael ei gorfodi i ddwylo’r gweinyddwyr am nad yw’r banciau, dan arweiniad RBS, yn fodlon rhoi mwy o gyllid iddyn nhw.
Mae RBS a’r banciau eraill wedi penderfynu fod dyledion y cwmni o dros £200 miliwn yn ormod o risg – er gwaetha’r ffaith fod y cwmni ei hun wedi gweld cynnydd mewn trosiant y llynedd, gydag elw o £27 miliwn.
Mae’r Aelodau Seneddol yn galw ar y Llywdoraeth i gymryd cyfrifoldeb dros ddyfodol y cwmni.
“Rydyn ni’n credu fod y trafferthion sydd ar hyn o bryd yn wynebu Peacocks yn rannol oherwydd y penderfyniadau economaidd mae’r Llywodraeth Glymblaid wedi eu cymryd,” meddai’r llythyr, “yn enwedig y penderfyniad i gynyddu Treth Ar Werth, gan wasgu galw’r prynwyr a chynyddu costau’r sector adwerthu.”
Rhybuddiodd yr Aelodau Seneddol y byddai “9,000 o swyddi yn cael eu rhoi yn y fantol yn y DU, a llawer ohonyn nhw yng Nghymru,” pe na byddai cwmni Peacocks yn cael y gefnogaeth sydd ei angen.
Yn y llythyr, mae’r Aleodau Seneddol yn gofyn os yw’r Llywodraeth wedi trafod y mater gydag RBS, ac a ddylai’r ffaith fod 80% o fanc RBS mewn perchnogaeth gyhoeddus fod yn ddylanwadol wrth benderfynu a ddylid cefnogi Peacocks.
Mae’r 26 Aeloda Seneddol Llafur, sy’n cynnwys AS Pontypridd, Owen Smith, sydd wedi ysgrifennu’r llythyr, ynghyd â Chris Bryant, Paul Flynn, Alun Michael, Peter Hain a Nia Griffith, nawr yn disgwyl ymateb gan Vince Cable.