Mae bachgen 13 oed gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad car yn Neganwy ddydd Sadwrn wedi marw yn yr ysbyty.
Roedd y bachgen yn teithio mewn car Rover pan fu mewn gwrthdrawiad â char Mitsubishi Shogun, oedd yn sefydlog ar y pryd.
Fe ddigwyddodd y ddamwain am 12.30am ddydd Sadwrn, 14 Ionawr yn Heol Fardre, Deganwy.
Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ond cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl yn ddiweddarach. Cafodd y teithwyr eraill yn y Rover fân anafiadau.
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r bachgen ar Twitter a Facebook.
Mae dau lanc sy’n byw’n lleol wedi cael eu harestio a’u rhyddhau ar fechniaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad. Y rhif i’w ffonio yw 101.