Mae pobol Cymru’n colli allan gan nad ydyn nhw’n fodlon ymchwilio i ba gwmniau ynni sy’n cynnig y cytundeb gorau, yn ôl adroddiad newydd.

Mae gwaith ymchwil gan grŵp Llais Defnyddwyr Cymru wedi darganfod fod mwyafrif o bobol Cymru yn colli allan ar yr arbedion sylweddol, gan nad ydyn nhw’n fodlon ystyried y dewis eang o gyflenwyr ynni sydd i’w cael ym Mhrydain.

Mae adroddiad diweddaraf y grŵp yn dangos nad yw degawd o gystadleuaeth rhydd  wedi perswadio pobol i newid eu cyflenwyr ynni – er gwaetha’r manteision ariannol o wneud hynny.

Yn ôl arbenigwr ynni Llais Defnyddwyr Cymru, Lindsey Kearton, mae biliau tanwydd pobol ar draws Cymru yn dal i gynyddu, ond “er gwaethaf y costau cynyddol, nid yw’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yng Nghymru yn manteisio ar fargeinion a allai arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn iddynt.”

Yn ôl yr adroddiad, dydi dau o bob pump o ddefnyddwyr ynni Cymru erioed wedi newid eu cyflenwr ynni, ac mae llawer o’r rhai sydd wedi newid ond wedi gwneud hynny unwaith yn y degawd diwethaf.

“Mae’r holl negeseuon gan y rheoleiddiwr yn awgrymu bod defnyddwyr yn cael y fargen orau trwy newid eu cyflenwyr yn rheolaidd,” meddai Lindsey Kearton.

“Mae hyn yn cadw’r farchnad yn weithredol ac yn annog cyflenwyr i gystadlu. Er hynny, mae mwyafrif clir o ddefnyddwyr yng Nghymru heb eu hargyhoeddi ynglŷn â newid cyflenwyr.

“Un aelwyd yn unig ym mhob wyth sy’n newid cyflenwyr yn rheolaidd, gan wneud hynny unwaith bob blwyddyn neu ddwy er mwyn cadw eu costau mor isel â phosibl.”

Mae’r gwaith ymcwhil wedi darganfod mai cwmniau Swalec/SSE a Nwy Prydain sydd â’r monopoli fwyaf ar y farchnad yng Nghymru, gan ddarparu nwy neu thrydan, neu’r ddau, i fwy na dwy ran o dair o gartrefi rhyngddyn nhw.

Mae’r ymchwil hefyd wedi datgelu fod pobol gogledd Cymru yn fwy tebygol o newid cyflenwyr na’r rhai sy’n byw yng nghanolbarth a de Cymru – ac mai arbed arian yw’r  rheswm pam fod 69% o bobol am newid cyflenwyr.

Mae’r grŵp nawr yn galw am fwy o ymgyrchoedd i dynnu sylw pobol at fanteision newid eu darparwyr ynni, a thargedu’r wybodaeth hynny’n arbennig at y bobol sydd fwyaf bregus – sef rheiny sy’n disgyn i gategori tlodi tanwydd yng Nghymru.