Car fel hwn! (grantuking CCA 2.0)
Mae ymladdwr cawell wedi prynu car crand, Lamborghini Spyder, ar ôl ennill £1 miliwn ar y loteri.

Er fod Gavin Davies, 29, o Cilma, Castell Nedd, wedi prynu’r ticed raffl EuroMillionare buddugol ar Ragfyr 27, dim ond ar Ionawr 13 y sylweddolodd ei fod wedi ennill.

Fe gafodd y tad o un o blant ddathliad cyhoeddus y prynhawn yma yng Nghwesty’r Morgans, Abertawe ac, er gwaetha’r gwario ar gar, mae’n dweud ei fod wedi gwneud adduned i fod yn ofalus a budsoddi ei arian er mwyn troi un miliwn yn ddeg.

Mae Gavin Davies yn gwario £25 yr wythnos ar y Loteri, ond fe ddatgelodd sut y bu bron iawn i’r ticed buddigol gael ei daflu gyda’r sbwriel ar ôl cael ei adael yn ei hen gar am fwy na phythefnos

Dywedodd: “Gyda fy nghariad i’n glanhau’r car, mae hi’n ddigon posib y gallai’r ticed fod wedi cael ei roi gyda’r sbwriel!”

Apêl

Diolch i apêl yn ei bapur lleol am berson a oedd wedi prynu’r ticed yn ardal Castel Nedd, cafodd ei annog gan ei dad-cu a’i fam-gu i edrych ar ei diced.

“Ysgrifennais y rhif buddugol o’r papur a’i djecio yn erbyn fy nhiced i a phan sylweddolais fy mod wedi ennill, roeddwn methu credu’r peth!”

Mae trefnwyr y Loteri’n dal i chwilio am berson sydd wedi ennill £1miliwn ar yr Euromillions ac a brynodd ei diced yng Nghaerdydd ar Ragfyr 23.

Mae gan y person yma nes Fehefin 20 i hawlio’r ticed, neu fe fydd yr arian yn mynd tuag at achos da.