Mick Antoniw - eisiau i Lywodraeth Prydain ymyrryd
Mae Aelodau Cynulliad wedi condemnio banc yr RBS am dynnu’r tir o dan draed y cwmni dillad Cymreig, Peacocks.

Fe alwodd arweinydd Plaid Cymru ar y Prif Weinidog i gwrdd â phenaethiaid y banc ar ôl i’r rheiny wrthod cefnogi’r cwmni ymhellach.

Yn ôl Ieuan Wyn Jones fe fyddai’n “gywilydd” pe bai banc sydd wedi cael ei achub gan arian cyhoeddus yn methu â chefnogi’r cwmni sy’n cynnwys siopau Peacocks a Bonmarche.

Galw am ymyrraeth

Yn ystod trafodaeth yn y Cynulliad, fe ddaeth condemniad tebyg gan AC Pontypridd, Mick Antoniw, sy’n dweud fod 500 o swyddi yn ei etholaeth ef mewn peryg.

Roedd yntau’n galw ar Lywodraeth Prydain i ymyrryd a defnyddio’u dylanwad ar y banc ar ôl i Peacocks gyhoeddi eu bod yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Arian cyhoeddus oedd wedi achub RBS ynghanol yr argyfwng bancio ac mae’r llywodraeth yn parhau i fod yn berchen ar fwyafrif eu cyfrannau.

“Os gallwn ni eu hachub nhw, allwn ni yn sicr ymyrryd i sicrhau bod cwmni preifat proffidiol yn gallu cael yr arian sydd ei angen i sicrhau ei barhad,” meddai Mick Antoniw.