Mae 41% o bobol yng Nghymru yn poeni na fyddan nhw’n gallu talu ei biliau tanwydd nesaf, yn ôl arolwg newydd.

Mae’r arolwg diweddaraf gan elusen Cyngor ar Bopeth Cymru yn dweud fod un o bob dau yn credu bydd biliau tanwydd yn rhoi straen ar eu sefyllfa ariannol eleni.

Daw’r ffigyrau ar ddechrau Wythnos Fawr Ynni Cyngor ar Bopeth, sydd â’r bwriad o geisio helpu pobol arbed arian ar eu biliau tanwydd.

Yn ôl Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth, Gillian Guy, mae’r “cynydd mewn prisiau wedi rhoi pwysau ychwanegol ar bobol pan fod arian eisoes yn dynn.”

Ond mae Gillian Guy yn credu fod modd i helpu nifer o bobol i ddod dros peth o’r caledi hynny.

“Yr hyn sy’n ein poeni ni yw fod rhai pobol yn cael amser mwy anodd na sydd ei angen, am resymau syml fel nad ydyn nhw ar y cytundeb gorau, eu bod nhw’n byw mewn cartrefi sydd heb eu hinsiwleiddio’n iawn, neu nad ydyn nhw’n cael yr help ariannol sydd ar gael iddyn nhw.”

Fis Tachwedd diwethaf, roedd na gynnydd sylweddol yn nifer y bobol a ddaeth at Cyngor ar Bopeth Prydain am gyngor wrth dorri eu biliau tanwydd, o’u cymharu â’r Tachwedd cynt.

‘Angen gweithredu ar y cyd’

Mae Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, John Griffiths, yn dweud bod angen gweithredu ar y cyd rhwng nifer o sefydliadau Cymru er mwyn taclo’r broblem.

“Mae cynnydd mewn costau ynni’n golygu bod mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn poeni am eu biliau tanwydd,” meddai.

“Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ond mae’n broblem gymhleth ac yn broblem na all un sefydliad neu lywodraeth ei datrys ar eu pen eu hunain.

“Rwy’n falch o gefnogi Wythnos Ynni Fawr, a fydd yn gweld ystod o fudiadau’n cydweithio i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y fargen orau ar ynni. Mae’n cyd-fynd â’n cynllun tlodi tanwydd ein hunain, Nest, sy’n ceisio darparu ystod o wasanaethau cefnogaeth a chyngor ar ynni i bobl ledled Cymru,” meddai, “ac mewn llai na blwyddyn mae wedi helpu dros 9,000 o bobl gyda chymysgedd o fesurau ymarferol, a chyngor i helpu i leihau eu biliau ynni.”

Fe fydd y Gweinidog yn lansio ‘Wythnos Ynni Fawr’ Cyngor ar Bopeth Cymru heddiw yng Nghanolfan Dewi Sant