Mae na bryder bod cwmni dillad Peacocks, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, ar fin cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar ôl i drafodaethau gyda’u benthycwyr fethu.
Yn ôl adroddiad ym mhapur y Sunday Telegraph, mae dyfodol Peacocks yn y fantol ar ôl iddyn nhw fethu â dod i gytundeb gyda’u benthycwyr.
Mae siopau Bon Marche, sy’n rhan o grŵp Peacocks, ar fin cael eu gwerthu ond mae na ansicrwydd am ddyfodol 550 o siopau Peacocks.
Roedd gwerthiant Peacocks wedi cynyddu 17% dros gyfnod y Nadolig.
Mae ymgynghorwyr annibynnol KPMG wedi bod yn cynnal adolygiad o fusnes y grŵp yn ddiweddar.
Yn ôl adroddiadiau, mae’r broblem yn deillio efo’r banciau – sy’n cael eu harwain gan Barlcays a RBS – ac a fydden nhw yn fodlon derbyn colled ar fenthyciadau sy’n ddyledus iddyn nhw.
Mewn datganiad, dywedodd Barclays eu bod nhw wedi bod yn “barod iawn i gefnogi rheolwyr wrth ail-strwythuro’r busnes.” Dywedodd RBS eu bod nhw’n parhau i gefnogi’r cwmni.