Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn wynebu honiadau iddi dorri Cod Ymddygiad Gweinidogion wrth werthu ei thŷ yn ei hetholaeth a fydd gerllaw llwybr y rheilffordd HS2 newydd.
Roedd hi wedi gwerthu tŷ teras yn Amersham, Swydd Buckingham, ym mis Tachwedd am £320,000 – ddeufis cyn i’r Llywodraeth gadarnhau llwybr y rheilffordd gyflym HS2 o Lundain i Birmingham yr wythnos ddiwethaf. Mae’r eiddo o fewn 500 llath i lwybr y rheilffordd newydd.
Cyn hyn, roedd Cheryl Gillan wedi bygwth ymddiswyddo oherwydd yr effaith yr oedd y rheilffordd yn debygol o’i gael ar ei hetholaeth Chesham ac Amersham.
Ond fe ddywedodd yr wythnos ddiwethaf fod “cynnydd da” wedi cael ei wneud gan y llywodraeth wrth liniaru effeithiau’r rheilffordd gyda rhagor o dwneli newydd.
Mae hi bellach yn cael ei chyhuddo o gefnu ar bobl ei hethoaleth.
“Mae gennym bellach Aelod Seneddol sy’n eistedd yn y Cabinet sydd wedi cymeradwyo polisi a fydd yn difetha llawer o gartrefi yn ei hetholaeth – ond does ganddi hi ddim eiddo yma bellach,” meddai Seb Berry, cynghorydd annibynnol dros dref Great Missenden yn ei hetholaeth.
“Fe fydd hyn yn gwneud pobl leol – llawer ohonyn nhw mewn dagrau oherwydd y penderfyniad ar HS2 – yn flin iawn.”
Cod Gweinidogion
Yn fwy difrifol, mae hi’n wynebu honiadau iddi dorri Cod Ymddygiad Gweinidogion y Llywodraeth, sy’n gwahardd unrhyw wrthdaro rhwng dyletswydd gyhoeddus a buddiannau preifat.
Mae gweinidog Swyddfa Cabinet yr Wrthblaid, Jon Trickett, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog David Cameron yn gofyn iddo ymchwilio i’r mater.
“Os yw’r adroddiadau yn y papurau newydd yn gywir, mae’n debyg iawn fod Cheryl Gillan wedi torri’r Cod Gweinidogion,” meddai.
“Os yw hyn yn wir, mae’n gamddefnydd o’i safle fel gweinidog ac yn dangos difaterwch llwyr at ei hetholwyr yn ogystal ag at gyfrifoldebau a dyletswyddau ei swydd.
“Mae Gillan wedi cymryd dewis nad oedd ar gael i’w hetholwyr, ac mae ei gweithredoedd wedi niweidio hygrededd y Llywodraeth yn ogystal â’i henw da ei hun.”