Mae mam i Americanes sydd ar goll yng Nghymru ers yr wythnos ddiwethaf wedi apelio am wybodaeth am ei merch.

Cafodd Kathryn Barnes, 32 oed, ei gweld ddiwethaf yng ngorsaf Abertawe ddydd Iau diwethaf.

Dywed ei mam, Lisa Schoonover, iddi sylwi bod manylion cyswllt ei merch wedi diflannu o’r wefan gymdeithasol Facebook ar ôl iddi fynd ar goll.

“Rydyn ni’n bryderus iawn am ddiogelwch Kate,” meddai. “Mae’n gwbl groes i’w natur iddi beidio â chysylltu â ni i ddweud ei bod hi’n iawn.”

Caiff Kathryn Barnes ei disgrifio fel 5 troedfedd 7 modfedd o daldra gyda gwallt naturiol olau ond a allai fod wedi ei lifo’n ddu.

Dywed Heddlu De Cymru ei bod hi’n siarad ag acen Americanaidd a’i bod hi wedi aros mewn amryw o gyfeiriadau yn Abertawe, Pontardawe ac Aberdaugleddau dros yr wythnosau diwethaf.
Roedd hi wedi dod draw i Brydain o dalaith Ohio ym mis Tachwedd i gyfarfod â ffrindiau yr oedd hi wedi eu cyfarfod ar Facebook.