Kyle Griffith
Mae dyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.

Bu farw Kyle Griffith, 25 oed, yn Stryd James ym Mae Caerdydd yn oriau mân bore dydd Mawrth ar ôl cael ei daro gan gar.

Mae’r dyn 22 oed yn cael triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau i’w goes yn dilyn y gwrthdrawiad ddydd Mawrth ac fe fydd yn mynd gebron ynadon Caerdydd yn y man.