Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ol rhyddhau llun o ddyn mae nhw’n awyddus i’w holi mewn cysylltiad ag ymosodiad rhywiol yng Nghasnewydd.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad rhywiol ar Ffordd Malpas, Casnewydd, tua 10am ar ddydd Llun, Ionawr 9.

Roedd merch 14 oed yn disgwyl mewn safle bws gyferbyn a gorsaf betrol ar Ffordd Malpas pan ddaeth dyn ati a dechrau siarad gyda hi cyn ymosod arni’n rhywiol.

Yn dilyn y digwyddiad, cerddodd y dyn i ffwrdd i gyfeiriad Tesco/Subway.

Mae’n debyg bod y  dyn yn ei 20au hwyr,  o hil gymysg gyda barf du. Roedd o’n gwisgo siwmper gyda’r hwd i fyny. Nid oedd yn siarad ag acen leol ac roedd ganddo dro yn un o’i lygaid.

Mae’r Heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad ac mae swyddogion yn cynnig cefnogaeth i’r ferch ifanc.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101 neu yn ddienw gyda Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.