Darren Millar
Mae’r Ceidwadwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi faint yn union fydd y gost o dynnu mewnblaniadau’r fron i bob dynes a dderbyniodd rhai gan y cwmni PIP o Ffrainc.

Mae’r Ceidwadwyr hefyd wedi galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi’r cyngor meddygol a dderbynwyd ynglyn â mewnblaniadau’r fron gan y cwmni sydd bellach wedi ei gau.

Ddoe, fe gyhoedodd Gweinidog Iechyd Cymru Lesley Griffiths y byddai pob menyw oedd wedi derbyn y mewnblaniadau – trwy’r gwasanaeth iechyd neu yn breifat – yn gallu cael eu tynnu ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae’r Ceidwadwyr yn cwestiynu honiadau Lesley Griffiths  y byddai’r menywod yn wynebu risg di-angen pe na byddai’r mewnblaniadau yn cael eu tynnu, ar ôl i grŵp arbenigol gyflwyno adroddiad i Lywodraeth San Steffan yr wythnos diwethaf yn dweud nad oedd y mewnblaniadau yn peri mwy o risg clinigol i’r menywod.

Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar AC,  dylai Llywodraeth Cymru “gyhoeddi’r cyngor ar unwaith” os yw’n gwahaniaethu o’r hyn a dderbyniwyd gan Lywodrath San Steffan yr wythnos diwethaf.

“Byddai unrhyw gyngor o’r fath o ddiddordeb cyhoeddus, ac ni ddylid ei gadw tu ôl i ddrysau caeedig,” meddai.

Dywedodd hefyd bod angen i gostau disgwyliedig gael eu cyhoeddi. “Mae angen i ni wybod faint o arian cyhoeddus fydd yn cael ei wario ar hyn, ac a fydd cleifion eraill yn colli allan o’u herwydd.

“Ar sail yr wybodaeth sydd wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn, dwi’n credu’n gryf fod gan glinigau preifat ddyletswydd gofal i’w cleifion ar y mater hwn. Dylai’r trethdalwr ddim fod yn ysgwyddo’r gost yn ddiangen, oni bai bod angen hynny ar sail clinigol.”