Catherine Barnes
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â dynes 32 oed sydd wedi mynd ar goll.
Cafodd Catherine Barnes – sy’n cael ei hadnabod fel Kate – ei gweld am y tro olaf ar ddydd Mercher, 4 Ionawr ger gorsaf reilffordd Abertawe.
Mae’r heddlu’n bryderus am ei diogelwch ac yn apelio ar un rhywun sydd wedi ei gweld i gysylltu â nhw.
Mae Catherine Barnes yn 5’7’ o daldra gyda gwallt golau sydd o bosib wedi ei liwio’n ddu ar hyn o bryd. Mae ganddi datŵ o’r faner Brydeinig ar ei garddwrn a thatŵ o ddraig ar ei choes.
Roedd hi’n gwisgo top du, jins glas, siwmper lwyd a bŵts pan gafodd ei gweld am y tro olaf.
Mae hi’n siarad gydag acen Americanaidd ac wedi aros mewn sawl cyfeiriad yn Abertawe, Pontardawe ac Aberdaugleddau yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Dylai unrhywun sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu yn Abertawe ar 101 neu Taclo’r Tacle ar
0800 555 111.