Elin Jones
Mae Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, ac NFU Cymru yn poeni ynglŷn â bwriad Llywodraeth Cymru i werthu fferm ymchwil Pwllpeiran yng Nghwmystwyth ger Aberystwyth.

Mae wedi cael ei disgrifio gan yr Undeb fel “adnodd hanfodol.”

Canolfan Ymchwil a Datblygu ar gyfer ADAS Cymru yw Pellperian wedi bod. Mae ADAS yn ymgynghorydd blaengar ar gyfer diwydiannau sy’n ymwneud â’r tir. Nhw oedd â’r brydles ond y llynedd fe ddywedon nhw eu bod am ddod â’r brydles i ben.

Dywedodd Elin Jones ei bod wedi trafod y mater gyda’r Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies AC, ac wedi derbyn llythyr ganddo yn cadarnhau ei fod yn bwriadu gwerthu’r tir fesul tipyn yn yr hydref eleni.

“Mae’n hanfodol cael eglurder ar y mater o ystyried pwysigrwydd Pwllpeiran fel adnodd ymchwil sylweddol sydd wedi bod yn weithredol ers y cyfnod wedi’r rhyfel,” meddai Elin Jones.

“Rwy’n siomedig gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru gan y bydd Cymru’n colli ei hunig fferm ymchwil ucheldir. Mae’r holl wybodaeth a gafwyd yn yr adnodd dros y blynyddoedd yn debyg o gael ei cholli. Mae hyn yn destun pryder, yn enwedig gan fod polisi cyhoeddus yn galw am fwy o gynhyrchu bwyd cynaliadwy ac fe fydd y penderfyniad yn sicr yn ergyd i’r ymdrechion hyn yng Nghymru.”

Roedd yn poeni am ddyfodol aelodau staff ADAS yno, meddai.

Mae undeb NFU Cymru hefyd wedi beirniadu’r penderfyniad. Meddai eu Cadeirydd, John Davies, “Gyda bron i 80% o dir amaethyddol Cymru yn cael ei ddynodi’n Llai Ffafriol, mae adnodd ymchwil fel Pwllpeiran yn strategol hanfodol a ddylai gael ei warchod a’i wella yn hytrach na chael ei werthu fesul tipyn.”

Dylid ystyried y posibilrwydd o barhau gyda’r ymchwil allweddol i ffermio’r ucheldir ar y safle drwy gydweithio â chorff ymchwil yn y sector breifat neu’r sector gyhoeddus, ychwanegodd.