Mae peirianwyr wedi darganfod craciau yn adenydd “nifer cyfyngedig” o awyrennau Airbus.

Neithiwr, mynnodd y cynhyrchwyr awyrennau nad oedd diogelwch y superjumbos A380 wedi ei effeithio.

Mae adenydd yr awyrennau Airbus yn cael eu hadeiladu yn ffatri’r cwmni ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Mae hi bellach wedi dod i’r amlwg fod craciau mân wedi ymddangos ar adenydd pum awyren, gan gynnwys un o awyrennau Qantas a Singapore Airlines.

Mae’r gwaith ym Mrychdyn yn arbenigo mewn adeiladu adenydd i awyrennau Airbus, ac ym mis Hydref y llynedd bu’r Prif Weinidog David Cameron yno i agor ffatri newydd gwerth £400 miliwn ar y safle.

Mae’r ffatri newydd bellach wedi dechrau arwaith adeiladu adenydd ar gyfer awyrennau newydd A350 y cwmni, a fydd yn hedfan yn 2013.

‘Dim bygythiad i ddiogelwch’

Mewn datganiad gan Airbus heddiw, dywedodd y cwmni eu bod yn “cadarnhau fod mân graciau wedi eu darganfod ar rai rhannau sydd ddim yn allweddol o gysylltiadau’r adenydd ar nifer cyfyngedig o awyrennau A380”.

“Rydyn ni wedi olrhain y peth yn ôl i’r man cychwyn. Mae Airbus wedi datblygu prosesau atgyweirio fydd yn cael eu gwneud yn ystod y gwiriadau cynnal a chadw arferol sy’n cael eu cynnal bob pedair blynedd.

“Yn y cyfamser, mae Airbus yn pwysleisio nad yw gwasanaeth diogel yr awyrennau A380 wedi ei effeithio.”

Yn ôl llefarydd ar ran y cwmni awyrennau, mae’r “Asiantaeth Safonau Hedfan Ewropeaidd yn cyd-fynd ag ymateb Airbus”.

Cadarnhaodd y llefarydd hefyd fod Airbus wedi rhoi gwybod i bob cwmni sy’n defnyddio awyrennau A380.

Yn ôl adroddiadau o Awstralia, cafodd y crac cyntaf, oedd bron yn anweladwy i’r llygad, wedi ei ddarganfod ar un o awyrennau A380 Qantas wrth iddo dderbyn gwaith atgyweirio gwerth $130 miliwn yn Singapore, ar ôl i injan Rolls Royce sawl awyren A380 ffrwydro yn 2010.

Y gred i ddechrau oedd bod diffygion yn yr injan wedi achosi’r problemau gyda’r adenydd, ond erbyn hyn mae’n amlwg nad oes cysylltiad rhwng y ddau nam.