Cerdyn coch
“Chwerthin” yw’r unig ffordd all un dyfarnwraig ymdopi â’r gwawd y mae hi’n ei wynebu ar y maes chwarae.

Dywedodd Chloe Lloyd, 23, o’r Trallwng, ei bod yn cael derbyniad “da iawn gan y mwyafrif” ond bod “gan rai pobol broblem” â’r hyn y mae hi yn ei wneud.

Mae Chloe Lloyd yn fyfyrwraig yn ei trydedd flwyddyn yn UWIC yng Nghaerdydd ac yn ei hamser sbâr mae hi’n dyfarnu gemau pêl droed dynion yng nghynghrair Cymru Alliance.

Mae hi wedi bod yn dyfarnu ers wyth mlynedd, ar ôl cael ei chynghori i roi’r gorau i chwarae’r gêm ar ôl dioddef anaf.

“Y peth pwysicaf yw bod gan bwy bynnag sy’n dyfarnu wybodaeth drylwyr am y gêm,” meddai.
“Ond rydw i wedi cael rhai profiadau annymunol.

“Unwaith fe wnaeth chwaraewr ysgwyd fy llaw – ac yna’n gofyn i mi am gusan. Fe ddywedes i wrtho nad oedd yn mynd i fod yn lwcus,” meddai cyn dweud ei bod yn “trio chwerthin” a “troi’r peth yn jôc”.

‘Symud ymlaen’

Mae dyfarnwyr benywaidd wedi cael llawer iawn o sylw dros y dyddiau diwethaf ar ôl sylwadau y cyflwynwyr Sky Sports, Andy Gray a Richards Keys, am lumanwraig.

Fe gafodd Andy Gray a Richard Keys eu recordio heb yn wybod iddynt yn trafod y penderfyniad i benodi Sian Massey yn lumanwraig yn ystod y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Roedd y cyflwynwyr wedi dweud fod angen i rywun fynd i lawr i esbonio’r rheol camsefyll iddi.

“Roedd sylwadau’r cyflwynwyr yn rhywiaethol. Ond, mae’n bryd anghofio’r peth a symud ymlaen,” meddai Chloe Lloyd.

“Ond yn dilyn beth ddigwyddodd rydw i’n gobeithio y bydd mwy o ferched yn cymryd diddordeb mewn dyfarnu ac y bydd yna ragor yn cael eu recriwtio.”

‘Eisiau parhau i ddyfarnu’

Mae Chloe Lloyd yn dyfarnu gemau pêl droed “bob penwythnos” ac mae’n gobeithio parhau i wneud hynny ar ôl gorffen UWIC.

Ar hyn o bryd, mae yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio cwrs chwaraeon yn UWIC. “Pan ydw i’n gadael, y nod yw parhau i ddyfarnu cyhyd ag ydw i’n gallu.”