Jay Bothroyd
Mae ymosodwr Caerdydd, Jay Bothroyd, wedi dweud ei fod eisiau canolbwyntio ar helpu’r Adar Glas i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.

Roedd yna ryddhad mawr yn Stadiwm Dinas Caerdydd pan gaeodd y ffenestr trosglwyddo am 11.00pm neithiwr heb i Bothroyd adael.

Roedd yr ymosodwr sydd â chap dros Loegr wedi ei gysylltu gyda sawl clwb gan gynnwys Fulham, Blackburn, West Ham a Newcastle Utd.

Ond pwysleisiodd Bothroyd ei fod yn gwbl ymroddedig i’r Adar Glas.

“Roeddwn i wedi dweud fy mod i am helpu Caerdydd i ennill dyrchafiad pan ymunais i gyda’r clwb,” meddai Jay Bothroyd.

“Mae gennym ni gyfle gwych i wneud hynny y tymor yma. Rwy’n credu y gallwn ni lwyddo eleni ac rwy’n hapus iawn fy mod i’n rhan o hynny.

“Y cyfan ydw i am ganolbwyntio arno nawr yw gwneud fy siâr er mwyn sicrhau ein bod ni’n ennill dyrchafiad.”

Ymadawiad

Cadarnhaodd Caerdydd fod yr amddiffynnwr Chris Riggott wedi gadael y clwb.

Mae Riggott wedi cael problemau gydag anafiadau ers ymuno gyda’r Adar Glas ac mae’r ddau ochr wedi penderfynu dod a’i gytundeb i ben.

Fe fydd yr amddiffynnwr yn cael ystyried cynigion gan glybiau eraill nawr.

Mae’r ymosodwr ar fenthyg, Andy Keogh, hefyd wedi gadael ar ôl i’w glwb, Wolves, ei alw yn ôl.

Fe ymunodd Keogh gyda Dinas Bryste ar fenthyg cyn i’r ffenestr trosglwyddo gau neithiwr.