Mae ymgyrch ar waith yng Nghonwy i gael cynhyrchwyr bwyd lleol i ddechrau gwerthu eu bwyd i gwmniau lleol yn y sector preifat a chyhoeddus.

Mae’r ymgyrch yn gobeithio annog cynhyrchwyr i ystyried y posibiliadau sydd ar gael yn lleol i werthu eu cynnyrch, ac fe fydd noson arbennig yn cael ei gynnal yn Llanrwst yr wythnos nesaf er mwyn i gynhyrchwyr gael clywed rhagor.

Bydd y cyfarfod agored yn cael ei gynnal yn Llanrwst nos Fawrth nesaf, ac mae’r trefnwyr eisiau i gynhyrchwyr o bob math ac o bob cwr ymuno â nhw, er mwyn clywed rhai o arbenigwyr y maes yn trafod sut i dorri mewn i’r diwydiant.

Y tri arbenigwr fydd yn rhannu eu profiadau nos Fawrth fydd Ieuan Edwards, Sandy Boyd a Dafydd Williams.

Mae Ieuan Edwards yn ffermwr a brynnodd siop cigydd 30 mlynedd yn ôl ac sydd bellach yn berchen ar gwmni hynod llewyrchus Edwards o Gonwy.

Mae Sandy Boyd yn rheolwr gyfarwyddwr Bwyd Cymru Bodnant yn Eglwysbach, Conwy ac newydd symud i’r ardal ar ôl bod yn rhedeg siop fferm wahanol i’r arfer yn Llwydlo. Bydd hi’n trafod ei chynlluniau ar gyfer sefydlu Canolfan Fwyd Cymru Bodnant   yn y misoedd nesaf.

Dafydd Williams, Rheolwr Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fydd trydydd siaradwr y noson. Mae ganddo gyfrifoldeb dros brynu a rheoli anghenion bwyd ysgolion Sir Conwy, ac fe fydd yn trafod  sut y mae system bwrcasu’r sir yn gweithio a sut y mae modd i gynhyrchwyr bwyd lleol fanteisio ar gyflenwi cynnyrch i fwydo plant ysgolion y sir.

Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath i gael ei gynnal yng Nghonwy, ac fe fydd y tri arbenigwr lleol yn rhannu eu gwybodaeth am y farchnad fwyd gyda’u cynulleidfa er mwyn trio ysgogi eraill i ddechrau gwerthu’n lleol.

Mae’r noson, o’r enw ‘Cynhyrchwyr Bwyd: sut i gyflenwi’r sector fwyd cyhoeddus a phreifat’, wedi ei threfnu ar y cyd rhwn Partneriaeth Gwledig Conwy Cynhaliol a phrosiect Cywain.

Mae Cywain, sy’n gynllun dan arweiniad Menter a Busnes, wedi ei sefydlu er mwyn ychwanegu gwerth i gynnyrch y sector amaethyddol lleol, ac fe fyddan nhw’n cydweithio â Chonwy Cynhaliol i gynnal y noson.

Yn ôl Rheolwr Prosiect Conwy Cynhaliol, Myrddin Davies, y gobaith yw y bydd y noson yn gyfle i “gynhyrchwyr bwyd a diod drafod ac ymchwilio i gyfleoedd marchnad newydd.

“Trwy ddod â thri llysgennad sy’n cynrychioli gwahanol agweddau o’r maes bwyd a diod i rannu eu profiadau gyda’r cynhyrchwyr, rydym yn gobeithio annog a darganfod cyfleoedd cyflenwi newydd i’r busnesau bach a chanolig eu maint,” meddai.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Glasdir, Llanrwst am 7pm nos Fawrth, 10 Ionawr. Mae gofyn i unrhyw un sy’n bwriadu mynd i gofrestru am le trwy e-bostio conwycynhaliol@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 577837.