Patsy Taylor
Mae mam i dri o blant o Ynys Môn yn gobeithio y gall ei phrofiadau hi wrth geisio delio â’i phroblem alcohol helpu eraill sy’n dioddef o’r un cyflwr.

Yn ôl Patsy Taylor, 53 oed, gweld rhywun arall yn ei chyflwr hi ei hun oedd yr ysgogiad mawr iddi ymwrthod ag alcohol – ac nawr mae hi eisiau helpu eraill i gael yr ail-gyfle gafodd hi.

Ond fe aeth Patsy Taylor, o Lanfairpwll, trwy 10 mlynedd o or-yfed cyn medru gwella, ar ôl un digwyddiad flwyddyn yn ôl pan fu’n rhaid i’w phlant ei rhuthro i’r ysbyty.

“Ro’n i yn yr ysbyty gyda dynes arall oedd yn iau na fi, a dw i’n cofio teimlo cymaint o biti drosti. Roedd hi mor felyn, gallech ei weld o yng ngwyn ei llygaid, ac roedd hi mor wael ac mor drist, a dw i’n siŵr nad oedd ganddi lawer o amser ar ôl.

“Dywedodd hi wrtha’i ei bod wedi bod i mewn ac allan o’r ysbyty ers blynyddoedd a’r cwbl y gallai feddwl amdano oedd sut i gael diod arall.

“Y cwbl y gallwn i feddwl amdano oedd gwella a bod gyda ’mhlant i, a dw i’n meddwl fod hynny’n drobwynt i mi.”

Mae gan Patsy Taylor dri o blant, yr hynaf yn 25 oed, a’r ieuengaf yn 15 oed erbyn hyn.

Nawr, mae hi eisiau helpu eraill i ddod trwy’r cyflwr caeth trwy wirfoddoli gyda grŵp cymorth alcohol yng ngogledd Cymru.

Mae Patsy Taylor bellach yn gweithio i Sefydliad Adfer Môn a Gwynedd (AGRO) ac erbyn hyn yn helpu rhedeg grŵp cymorth y sefydliad ym Mangor, sy’n helpu pobol sy’n gaeth i gyffuriau yn ogystal ag alcohol.

Mae AGRO wedi ei sefydlu ers blwyddyn bellach, ac yn cynnig cymorth 24 awr y dydd i bobol dros y ffôn, yn ogystal â threfnu amrywiaeth o weithgareddau fel garddio, cerdded a dosbarthiadau celf er mwyn helpu dioddefwyr i lenwi eu bywydau â rhywbeth heblaw alcohol.

Cafodd AGRO ei sefydlu gan rai cyn-ddioddefwyr alcoholiaeth, ac mae’n nhw’n derbyn cyngor a chefnogaeth gan WINSENT, sef Rhwydwaith Mentergarwch Cymdeithasol Cymru ac Iwerddon.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf elusen Alcohol Concern Cymru, mae cam-ddefnyddio alcohol yn costio rhwng £69.9 miliwn o £73.3 miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru bob blwyddyn.