Alun Ffred Jones
Fe fyddai Plaid Cymru yn ceisio dod a Chwpan Rygbi’r Byd yn ôl i Gymru pe baen nhw’n arwain y llywodraeth ar ôl Etholiadau’r Cynulliad.
Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, ddoe eu bod nhw “eisiau gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru i ddenu’r gystadleuaeth i Gymru yn y dyfodol”.
“Y dewisiadau nesaf sydd ar gael yw 2023 a 2027.”
Fe fydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal yn Seland Newydd eleni, Lloegr yn 2015, a Japan 2019.
Ychwanegodd eu bod nhw hefyd yn gobeithio cyd-weithio gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru er mwyn denu gemau Cynghrair y Pencampwyr UEFA i Gymru.
‘Uchelgeisiol’
Dywedodd Alun Ffred Jones ei fod yn gobeithio dod a digwyddiadau mawr i bob rhan o Gymru, yn hytrach na Chaerdydd yn unig.
“Yr wythnos hon, rydym yn amlinellu’r camau nesaf y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn y dyfodol yn gymryd i wneud Cymru yn gyrchfan chwaraeon a thwristiaeth enwog ledled y byd.
“Byddwn yn ceisio denu digwyddiadau mawr i bob rhan o Gymru, a fydd o les i’r economi, gan ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ochr yn ochr â rhai o’r cyfleusterau ardderchog sydd gennym eisoes.
“Rydym yn uchelgeisiol dros Gymru. Oedd, roedd Cwpan Ryder yn llwyddiant mawr, ond rydym ni’n gweld potensial enfawr o ddwyn llawer o ddigwyddiadau byd-enwog eraill i wahanol rannau o Gymru.
“Os bydd y Blaid yn ffurfio llywodraeth wedi etholiad mis Mai, fe wnawn ein gorau glas i ddwyn digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru, gan gynnwys canoli ar ddenu digwyddiadau newydd a allai weld sefydlu Cymru fel cyrchfan fyd-enwog am dwristiaeth chwaraeon.”