Mae dros 160 o bobol sydd yn eu 70au wrthi’n dysgu gyrru yng Nghaerdydd, yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl y ffigyrau swyddogol mae prifddinas Cymru yn agos at frig y tabl o ran nifer y bobol sy’n dysgu gyrru ar ôl eu 70ain pen-blwydd.

Yn ôl y DVLA mae yna 162 o bobol dros 70 oed yn dysgu gyrru yng Nghaerdydd. Mae’r nifer uchaf yn Llundain, sef dros 1000. Birmingham sy’n ail â 413.

Yn ôl y ffigyrau mae yna 48 o bobol yn dysgu gyrru yn eu 90au, ac mae un yn 98 oed.

Nid yw’n syndod mai pobol yn eu harddegau a’u 20au yw’r grŵp oed mwyaf sy’n dysgu gyrru (42.45%), tra bod pobol yn eu 30au yn cynrychioli 20% o’r cyfanswm, pobol yn eu 40au yn 18.5% o’r cyfanswm, pobol yn eu 50au yn 11.45% o’r cyfanswm, a phobol yn eu 60au yn 7.4% o’r cyfanswm.

“Rydyn ni bellach yn byw bywydau hirach a llawnach ond mae’n dipyn o syndod gweld cymaint o bobol yn dysgu gyrru yn eu 70au ac yn hŷn na hynny,” meddai Tony Guest o Co-operative Motor Group.

“Ond os ydych chi’n iach does dim rheswm pam na ellir dechrau mwynhau gyrru yn hwyrach ymlaen mewn bywyd.”