Mae angen gwerthu’r pethau iawn, a gwerthu yn y ffordd iawn. Dyna neges un gŵr busnes o Gaerfyrddin sydd wedi gweld gwelliant yn ei fasnach dros y Nadolig eleni – er gwaetha’r sefyllfa economaidd tywyll.

Yn ôl Andrew Davies, sy’n berchen ar siop nwyddau a llyfrau Cymraeg Siop y Pentan gyda’i wraig Llio Silyn yng Nghaerfyrddin, mae masnach y Nadolig hwn ar ei fyny oherwydd ymgyrch newydd i fynd â’u nwyddau yn agosach at y cwmser.

Mae’r cwpwl wedi bod yn rhedeg Siop y Pentan, sydd wedi ei leoli yn un o’r adeiladau o gwmpas marchnad Caerfyrddin, ers tair blynedd bellach, ond ers pythefnos mae’r ddau wedi bod yn rhedeg uned yn y farchand ei hun yn gwerthu nwyddau a chrefftau Cymreig.

“Mae’r fenter wedi talu ar ei ganfed,” meddai Andrew Davies wrth Golwg 360 heddiw.

“Chi’n clywed gymaint o bobol yn siarad am bethe’n mynd yn ddu iawn ar fasnachwyr – ond ma’ pethe’n mynd yn dda iawn gyda ni.”

Mae’r ffigyrau gwerthiant diweddaraf yn dangos fod gwerthiant yn gyffredinol wedi gostwng 0.4%  yn ystod mis Tachwedd.

Roedd y ffigyrau, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf, yn dangos fod siopwyr wedi bod yn gwario llai o arian er gwaethaf y sêls cynnar a’r dêls arbennig gan siopau o’r stryd fawr i’r archfarchnadoedd.

Ond mae perchnogion Siop y Pentan yn mynnu fod gwerthu’r pethau iawn, yn y ffordd iawn, yn dal i weithio – a hynny er gwaethaf y ffaith fod siopwyr bellach yn dangos tuedd at siopa ar lein dros fentro i’r stryd fawr.

Yn ôl yr ystadegau cafodd £787.9 miliwn ei wario ar-lein yn ystod Tachwedd 2011 – a’r ffigwr hwnnw i fyny o £546.4m y mis blaenorol – a’r farchnad ar-lein nawr yn berchen ar 12.2% o’r holl farchnad manwerthu.

Ond yn ôl Andrew Davies mae yna ateb ddigon syml os yw masnachwyr yn fodlon bod yn flaengar wrth werthu.

“Os y’ch chi’n gwerthu’r pethe iawn, am y pris iawn, ddylech chi fod yn iawn,” meddai.

Dyma trydydd Nadolig y pâr ers iddyn nhw brynu busnes Siop y Pentan, sy’n gwerthu amrywiaeth o nwyddau Cymraeg a Chymreig, o CDs i lyfrau i grefftau a chardiau.