Dr Tony Jewell
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn ymddeol.

Fe fydd Dr Tony Jewell yn ildio’r awenau yr haf nesaf ar ôl chwe blynedd yn y swydd.

Mae Dr Jewell yn rhoi cyngor proffesiynol a chyfarwyddiadau ynglŷn â materion iechyd i weinidogion Llywodraeth Cymru yn rhinwedd ei swydd.

Dywed swyddogion bod Dr Jewell, 61, wedi cyflwyno nifer o fesurau iechyd yn ystod ei gyfnod yn y swydd gan gynnwys gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus, lleihau gor-yfed a hybu ymarfer corff.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Dr Jewell cyfrannu tuag at greu strwythur newydd i iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Dr Jewell yn bwriadu parhau i gyfrannu tuag at iechyd cyhoeddus yn Affrica. Dywedodd ei fod wedi bod yn fraint aruthrol i gael ei benodi i’r swydd a’i fwriad o’r cychwyn oedd aros am bum mlynedd.

“Rydw i’n teimlo mai dyma’r amser i symud ymlaen. Rydw i’n falch iawn bod iechyd cyhoeddus bellach yn chwarae rhan llawer mwy allweddol yn y GIG yng Nghymru nag erioed o’r blaen.”

Dywedodd mai dim ond trwy roi’r pwyslais ar atal problemau y gellir mynd i’r afael â materion fel ysmygu, gor-bwysedd ac alcohol er mwyn gwneud y GIG yn fwy effeithlon.

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn dechrau ar y gwaith o benodi olynydd i Dr Jewell yn fuan.