Ysbyty Bronglais
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi eu bod yn dechrau ymgynghoriad ar newidiadau pellgyrhaeddol i wasanaethau ysbytai’r awdurdod heddiw.

Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda Trevor Purt, a’r Cadeirydd Chris Martin, wedi dweud y bydd pob un o ysbytai’r rhanbarth – Bronglais, Llwynhelyg, Glangwili a’r Tywysog Philip – yn parhau’n agored, ond bod yn rhaid newid y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu yno er mwyn ymateb i “boblogaeth sy’n heneiddio” ac anhawsterau staffio, ac arbenigedd meddygol.

Mae penaethiaid yr Awdurdod wedi galw’r cyfnod yn “ymarferiad gwrando” er mwyn cael syniad o’r ymateb cyhoeddus i’r cynlluniau – fyddai’n cynnwys dod a dau wasanaeth neonatal ac uned bediatryddol arbennig o fewn y sir am y tro cyntaf.

Ond mae pryderon mawr yn lleol y bydd rhai gwasanaethau yn cael eu symud ymhellach oddi wrth cleifion wrth ganoli gwasanaethau mewn ysbytai.

Ond heddiw, mae’r Cadeirydd Chris Martin wedi dweud nad yw “peidio newid yn opsiwn. Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ateb cynaladwy i’r gwasanaethau iechyd.”

Mae’r cynlluniau diweddaraf yn ran o gynllun pum mlynedd gan yr Awdurdod Iechyd, sy’n gobeithio gallu sicrhau bod gwasanaethau cynradd ar gael i bob un o’u cartrefi o fewn 15 munud, gwasanaethau cymunedol o fewn 30 munud i’r cartref, ysbytai o fewn 60 munud i’r cartref, a gwasanaethau arbenigol o fewn 90 munud i’r cartref.

Yn ol y Prif Weithredwr Trevor Purt, fe fydd “y pedair ysbyty dosbarth yn aros, ond fe fyddan nhw’n gweithio fel un ysbyty ar draws pedwar lleoliad. Rydyn ni eisiau i glinigwyr weithio mewn rhwydwiath ac fe fyddwn ni’n canoli lle’r rydyn ni angen hynny fel ein bod ni’n cael y cymysgedd sgiliau yn gywir.”

Ond mae bobol leol yn poeni y bydd y broses o “ganoli” yn golygu symud rhai gwasanaethau hanfodol ymhellach oddi wrthyn nhw. Mae pryderon eisoes wedi eu codi bod uned ganser colorefrol Bronglais, yn Aberystwyth, yn mynd i gael ei ganoli i Glangwili yng Nghaerfyrddin, neu Llwynhelyg yn Hwlffordd  – a’r ddau dros awr a hanner i ffwrdd.

Fe fydd y cyfnod ymgynghori yma’n para 12 wythnos, gyda chyfres o fforymau iechyd yn cael eu cynnal ledled tair sir yr Awdurdod Iechyd yn y flwyddyn newydd.

Mae Awdurdod Iechyd Hywel Dda yn dweud y bydd yr ymateb yn ystod y 12 wythnos nesaf yn helpu “llywio’r broses o ddatblygu’r opsiynau” ar gyfer yr ymgynhoriad ffurfiol yn 2012.