Michael Dye
Mae disgwyl i’r dyn oedd wedi cyfaddef iddo ladd cefnogwr pel-droed o Gymru yn Wembley gael ei ddedfrydu heddiw.
Bu farw Michael Dye, 44 oed, o Gaerdydd o anafiadau i’w ben yn dilyn digwyddiad tu allan i stadiwm Wembley cyn y gem rhwng Cymru a Lloegr ar 6 Fedi.
Cafodd ei gludo i ysbyty Northwick Park yn Llundain tua 7.20pm ond bu farw’n ddiweddarach.
Roedd Ian Mytton, 41, o Redditch yn Swydd Gaerwrangon wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad yn yr Old Bailey.
Roedd Michael Dye, yn dad i dri o blant ac yn gweithio i gyngor Caerdydd. Roedd hefyd yn gefnogwr brwd o glwb pel-droed Caerdydd.