Mae dyn  wedi marw a dau arall wedi eu cludo i’r ysbyty ar ôl digwyddiad mewn tŷ yn Llanilltud Faerdref yn Rhondda Cynon Taf neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ yn Llanilltud Faerdref am  9:18pm neithiwr.

Cafwyd hyd i un dyn oedd wedi marw a chafodd dau arall eu cludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gydag anafiadau.

Mae’n debyg nad yw’r ddau berson arall wedi eu hanafu’n ddifrifol.

Dywed Heddlu De Cymru nad oes amgylchiadau amheus i’r digwyddiad.

Mae’r ymchwiliad yn parhau i’r digwyddiad.