Mae angen cannoedd o deuluoedd maeth newydd yng Nghymru yn 2012, er mwyn osgoi argyfwng yn y system gofal plant, yn ol rhybudd gan y Rhwydwaith Maethu heddiw.

Yn ol yr elusen, mae angen o leia’ 550 o deuluoedd maeth newydd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn nesaf, a’r rheiny i fod yn addas ar gyfer yr holl blant mewn gofal.

Mae’r elusen yn galw ar fwy o bobol i ysytried mabwysiadu, wrth i nifer y plant sy’n cael eu rhoi mewn gofal ac angen cartrefi maeth gynyddu am y bumed flwyddyn yn olynol – a pharhau i gynyddu.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio bod y gofalwyr maeth sydd yn cynnal y system ar hyn o bryd yn heneiddio.

Yn ol Rhwydwaith Maethu, os na fydd digon o deuluoedd newydd yn ymuno a’r system yn y flwyddyn nesaf, fe fydd rhaid i “ormod o blant setlo am ofal sydd ddim yn ddigon da. Efallai bydd hyn yn golygu byw gyda gofalwr maeth sy’n byw yn bell o gartref, ysgol a theulu’r plentyn, neu sydd heb ddigon o le i ofalu am eu brodyr a’u chwiorydd, neu hyd yn oed byw mewn cartref gofal, er mai gofal maeth sydd wedi cael ei benodi fel y dewis iawn.”

Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd yr Asiantaeth Mabwysiadu a Maethu Prydeinig fod 5,419 o blant yng ngofal awdurdodau lleol ar draws Cymru ym mis Mawrth 2011.

Yn ôl yr asiantaeth, mae ychydig dan ddwy fil o blant yn dod dan ofal awdurdodau lleol yng Nghymru bob blwyddyn, gyda 1,885 o blant wedi cael eu rhoi i’w gofal yn y flwyddyn i fis Mawrth 2011.

Yn ol Prif Weithredwr y Rhwydwaith Maethu, Robert Tapsfield, mae’r ffigyrau yn “frawychus – gallai hyn olygu argyfwng go iawn wrth i ni geisio darparu’r gofal mwyaf addas i’r plant sy’n methu byw gyda’u teuluoedd eu hunain.

“Wrth ddod yn ofalwyr maeth, gall pobol helpu plant maen nhw’n eu croesawu i’w cartrefi i gael y cyfle gorau posib i gael dyfodol cadarnhaol, i wneud yn dda yn yr ysgol, a bod yn llwyddiannus yn eu bywydau,” meddai.

Mae Rhwydwaith Maethu yn rhybuddio y bydd angen 8,750 o deuluoedd maeth newydd i gyd, er mwyn ateb y galw ar draws Prydain yn ystod 2012.