Mae’r heddlu wedi arestio gyrrwr lori gwair darodd yn erbyn trên ar groesfan rheilffordd yn Hendy-gwyn ar Daf.

Dywedodd yr heddlu fod dyn 48 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o beryglu diogelwch.

Yn ôl Network Rail, digwyddodd y gwrthdrawiad ar ôl i’r lori a’r trelar fynd ar groesfan y rheilffordd wrth i bariau’r groesffordd gael eu cau, a’r trên yn agosau.

Mae’n debyg bod gyrrwr y lori wedi llwyddo i adael y cerbyd cyn i’r trên 9.10am o Aberdaugleddau i orsaf Piccadilly Manceinion ei daro.

Cafodd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig eu galw i’r groesffordd am 9.55am y bore ’ma.

Yn ôl llefarydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth cafodd swyddogion “eu galw i’r rheilffordd yn Henllan Amgoed, Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfryddin, wedi adroddiadau fod trên wedi taro cerbyd oedd yn tynnu trelar dros groesfan Llanboidy.”

Dywedodd y llefarydd fod swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans, a Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Cymru hefyd wedi mynd i’r digwyddiad.

“Roedd y trên yn dal ar ’i fyny ar y cledrau yn union wedi’r gwrthdrawiad,” meddai’r llefarydd.

Y gred yw bod 50 i 60 o deithwyr ar y trên ar y pryd, ac mae’n debyg bod saith wedi eu trin am fân anafiadau.

“Mae ymchwiliad ar waith nawr i sefydlu achos y gwrthdrawiad, gan gynnwys sut aeth y cerbyd ar ben y cledrau,” meddai’r llefarydd.

Mae bysiau nawr yn darparu’r gwasanaeth trên rhwng Hendy-gwyn ar Daf a phorthladd Abergwaun ac Aberdaugleddau, ac fe fydd y gwasanaeth hyn yn parhau am y tro.