Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i chwilio am dri lleidr wedi i ddau dyn ymosododd ar wr 55 oed yn ei gartref yn Rhydyclafdy ger Pwllheli toc wedi 7 o’r gloch nos Iau.

Mae’r gwr, sy’n cael ei enwi’n lleol fel William Ward-Jackson, yn gwella yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar ôl cael ei saethu yn ei goes a diodde mân anafiadau eraill. Bu’n rhaid iddo gael llaw-driniaeth ar ei goes ac mae bellach mewn “cyflwr cyfforddus” yn ôl yr ysbyty.

Fe wnaeth y ddau ddyn dorri i mewn i fferm Cefn Llanfair yn gynnar nos Iau a dwyn dau wn o eiddo’r gwr, ynghyd â swm o arian papur £50 sydd o bosib ddim yn arian cyfreithlon erbyn hyn, a broets ddeiamwnt fechan.

Fe wnaeth y ddau ddianc efo dyn arall mewn car Fiesta lliw arian gafwyd rhyw filltir o’r ty yn fuan wedyn.

Cafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw i’r fferm tua 8.50 nos Iau.

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Iestyn Davies o Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn dilyn sawl trywydd er mwyn dod o hyd i’r dynion.

“Rydan ni’n awyddus iawn i holi unrhyw un welodd unrhyw gerbyd efo tri dyn yn yr ardal, yn enwedig ar y ffordd gul rhwng Rhydyclafdy a Llanbedrog nos Iau,” meddai.