Elin Jones
Mae sylwebydd gwleidyddol llawrydd sy’n cadw llygad barcud ar bolitics Bae Caerdydd yn credu mai Elin Jones yw’r ffefryn i lenwi esgidiau Ieuan Wyn Jones.
“Mae Elin Jones wedi gwneud y rhedeg i gyd. Mae hi wedi codi ei phroffil tipyn yn y misoedd diwethaf,” meddai Gareth Hughes.
“Mae ganddi hefyd brofiad o fod yn y Llywodraeth.”
Roedd Elin Jones yn Weinidog Amaeth Cymru yn y Llywodraeth glymblaid ddiwethaf rhwng Llafur a Phlaid Cymru (2007-11).
“Fyswn i’n rhoi’n arian ar Elin i ennill,” meddai Gareth Hughes.
Y tri arall yn y ras yw Leanne Wood, Simon Thomas a’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
Yn ôl Gareth Hughes roedd cyhoeddi eu bwriad i sefyll yn gynnar o fantais i Elin Jones a Dafydd Elis-Thomas wrth geisio denu cefnogaeth.
“Dw i’n dal i ddweud mai rhwng y ddau yna fydd y ras agosa’.
“Gall neb ddweud fod gan Dafydd ddim gobaith, mae o wedi bod yn y gêm mor hir, mae ganddo gysylltiadau â llawer iawn o aelodau’r Blaid.”
Mae Dafydd Elis-Thomas, sy’n Aelod Cynulliad dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd, eisoes wedi bod yn arweinydd ar Blaid Cymru am gyfnod yn y 1980au, ac fe fu’n unig Lywydd ar y Cynulliad tan eleni.
Y ddau wanaf
Mae dau gystadleuydd gwanaf y ras, yn ôl Gareth Hughes, yn rhannu sawl peth yn gyffredin. Simon Thomas a Leanne Wood yw’r ymgeiswyr olaf i ymuno’n yr ornest, mae’r ddau yn hanu o’r Cymoedd, ac er eu profiad helaeth y tu ôl i’r llenni, dyw’r un o’r ddau wedi dal swydd amlwg o fewn y Blaid.
Mae Gareth Hughes yn credu y bydd Elin Jones yn tynnu pleidleisiau oddi ar Simon Thomas, sy’n gyn-Aelod Seneddol dros etholaeth Ceredigion – lle mae Elin Jones wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 1999. Erbyn hyn Simon Thomas yw Aelod Cynulliad y Blaid dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
“Dw i’n credu fod Simon Thomas yn mynd i fod yn cystadlu am yr un aelodaeth ag Elin Jones yn y pen draw,” meddai.
“Mae Simon yn ymgeisydd cry’, ond mae o wedi ei gadael hi braidd yn hwyr cyn dod i’r ras.”
Yr un sydd wedi creu’r cynnwrf mwyaf amlwg ymhlith llawer o aelodau Plaid Cymru yn ddiweddar yw’r enw diweddaraf i ymuno â’r ras, sef Leanne Wood Aelod Cynulliad y Blaid dros Canol De Cymru.
Wrth gyhoeddi ei bod yn sefyll ddoe roedd hi’n lansio’i hymgyrch ar seiliau adain chwith cryf – sy’n deillio o’i chefndir yn y Cymoedd.
Yn ôl Gareth Hughes does dim gwadu na fydd hyn yn gyfle i ehangu apêl y Blaid – ac yn gyfle i dorri mewn i dir Llafur yn y de. Ond mae’n amau pa mor gryf yw’r garfan sy’ wirioneddol yn adain chwith o fewn y Blaid.
“Bydd ganddi gefnogaeth yn y Cymoedd wrth gwrs, ond mae nerth Plaid Cymru yn y gorllewin. Fan una mae mwyafrif aelodaeth y Blaid,” meddai Gareth Hughes, “a dw i ddim yn meddwl ei bod hi’n mynd i lawr yn rhy dda yn y gorllewin, gan ei bod hi’n dod o’r Cymoedd ac nad ydi hi’n siarad Cymraeg.”
Annibyniaeth ar yr agenda
Un peth allai fod o blaid Leanne Wood yw ei safbwynt clir ar annibyniaeth, yn ôl Gareth Hughes.
Mae Leanne Wood ac Elin Jones wedi datgan yn glir eu bod am weld Cymru yn symud i gyfeiriad annibyniaeth – ac yn ôl Gareth Hughes mae hyn yn mynd i fod yn gwestiwn pwysig yn hystings yr arweinyddiaeth ac yn y dyfodol agos, wrth i’r Alban symud yn agosach at annibyniaeth.
“Llusgo’u traed ar fater annibyniaeth” mae Dafydd Elis-Thomas a Simon Thomas, meddai Gareth Hughes, ac mae’n rhagweld y gallai hyn fod yn faen tramgwydd i’r ddau.
“Heb safbwynt clir ar annibyniaeth, dw i’n meddwl bod posibilrwydd mawr i Blaid Cymru golli tir,” meddai Gareth Hughes.
“Dw i’n cael y teimlad bod aelodaeth Plaid Cymru hefyd eisiau gweld penderfyniad mwy cadarn ar annibyniaeth.”