Mae un o gymeriadau mwya’ poblogaidd S4C ar ei ffordd yn ôl.

Yn y flwyddyn newydd fe fydd Mei Jones yn cychwyn ffilmio Wali Wandryrs, sy’n dangos hynt a helynt Wali Tomos yn rhedeg tîm pêl-droed i fechgyn dan 12 oed.

Union flwyddyn yn ôl roedd Mei Jones yn son yng nghylchgrawn Golwg ei fod yn trafod y syniad o ddod â Wali Tomos yn ôl.

Bydd chwe pennod hanner awr o Wali Wandryrs yn cael eu ffilmio yn 2012, ac ar S4C yn 2013.

Daeth C’mon Midffîld i ben yn 1994, ond mae’r gyfres yn dal i gael ei chyfrif yn rhaglen orau S4C erioed ar lawr gwlad.

Daeth poblogrwydd cymeriadau fel George a Sandra a Tecs i’r amlwg eto’n ddiweddar yn y ddrama lwyfan C’mon Mid-laiff.

Mi werthodd y tocynnau i’r sioe Bara Caws fel slecs, a doedd dim sedd wag ar gyfer y perfformiadau yn y gogledd.

Roedd Mei Jones yng Nghaernarfon neithiwr yn perfformio mewn clwb fel Wali Tomos.