Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi i ddyn gael ei anafu ar ôl lladrad ar ei dŷ ym Mhen Llŷn neithiwr.
Digwyddodd y lladrad yn ardal Rhydyclafdy toc wedi naw neithiwr, ac mae’n debyg bod dyn tua 60 oed wedi ei anafu wedi i’r lladron dorri mewn i’w dŷ.
Y gred yw bod dau ddyn wedi torri mewn i’r eiddo, cyn dianc mewn cerbyd. Mae’r heddlu yn ymchwilio i’r posibilrwydd bod trydydd person yn gyrru’r cerbyd.
Aethpwyd a’r dyn i’r ysbyty ar ôl derbyn mân anafiadau yn sgil y digwyddiad.
Mae archwiliadau fforensig yn cael eu cynnal yn yr eiddo ar hyn o bryd.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiad, neu oedd yn ardal Rhydyclafdy neithiwr ac wedi gweld rhywbeth amheus, mae’r heddlu yn gofyn iddyn nhw gysylltu â nhw ar 101.