Mae prif arholwr y corff arholi CBAC wedi mynnu heddiw nad oedd wedi torri unrhyw reolau yn dilyn honiadau mewn papur newydd ei fod wedi rhoi gwybodaeth amhriodol i athrawon fel bod disgyblion TGAU yn gallu cael gwell graddau.
Dywedodd Paul Barnes fod ei sylwadau, a ymddangosodd yn y Daily Telegraph, wedi cael eu camddehongli.
Mae arholwr arall CBAC Paul Evans wedi ymddiheuro gan ddweud ei fod yn difaru gwneud sylwadau “amhriodol” i newyddiadurwyr y Daily Telegraph.
Ond roedd yn mynnu nad oedd wedi datgelu manylion am gwestiynau oedd i godi mewn arholiadau yn y dyfodol.
Mae’r ddau wedi eu gwahardd o’u swyddi dros dro.
Roedd y ddau yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Addysg San Steffan heddiw, ynghyd â phrif weithredwyr tri o fyrddau arholi Lloegr, ar ôl i’r stori ymddangos yn y Daily Telegraph wythnos diwethaf.
‘Amhriodol’
Wrth roi tystiolaeth i Aelodau Seneddol bore ma dywedodd Paul Evans mai pwrpas y seminar oedd rhoi “gwybodaeth i athrawon am y cwrs, rhoi canllawiau iddyn nhw am wersi oedd wedi eu dysgu o ganlyniadau arholiadau yn y gorffennol, gyda’r bwriad o’u helpu i ddysgu eu disgyblion ar gyfer arholiadau yn y dyfodol.”
Dywedodd bod ei gyfeiriad at y gair “twyllo” wedi bod yn derm amhriodol i’w ddefnyddio ond mae’n mynnu nad oedd wedi datgelu unrhyw gwestiynau penodol a fyddai’n codi yn arholiad 2012, neu unrhyw arholiad wedi hynny.
Ychwanegodd ei fod yn credu bod ei sylwadau wedi cael eu cymryd allan o’u cyd-destun gan y papur.
Dywedodd prif weithredwr CBAC Gareth Pierce wrth y pwyllgor ei fod yn fodlon nad oedd manylion unrhyw arholiadau wedi cael eu datgelu.
Roedd y Daily Telegraph wedi honni bod athrawon yn Lloegr wedi cael gwybodaeth mewn seminarau byrddau arholi am gwestiynau fyddai’n cael eu cynnwys mewn arholiadau Safon Uwch a TGAU.
Ymchwiliad mewnol
Ddoe, dywedodd CBAC eu bod wedi cynnal ymchwiliad mewnol manwl i’r materion a godwyd gan y Daily Telegraph.
“Mae’r honiadau a wnaed gan y papur newydd yn achos pryder mawr i ni, ac rydym yn cydweithredu’n llawn â’r rheoleiddwyr yn Lloegr (Ofqual) ac yng Nghymru (AdAS) yn eu hymchwiliadau. Ni dderbyniwyd fersiynau llawn recordiadau’r Daily Telegraph gennym hyd yn hyn, ond deallwn y byddant ar gael i’r sefydliadau dyfarnu yn y dyddiau nesaf,” meddai llefarydd ar ran CBAC mewn datganiad.
Yn y cyfamser mae Gweinidog Addysg Cymru wedi gorchymyn adolygiad i sector cymwysterau’r wlad.
Fe ddywedodd Leighton Andrews AC y byddai’r adolygiad yn edrych ar systemau amgen posibl, gan gynnwys ystyriaeth a ddylai fod ‘na un darparwr yn hytrach na sawl bwrdd arholi yn cystadlu.