Emma Louise Jones
Mae dynes 23 oed o Lanllyfni, sydd wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth ar ol i Emma Louise Jones  farw ym Mhenygroes dros y penwythnos, wedi cael ei chadw yn y ddalfa.

Roedd Alwen Eluned Jones wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon heddiw i wneud  cais am fechnïaeth.

Fe fydd y gwrandawiad nesaf yn cael ei gynnal ar 10 Chwefror, 2012 yn Llys y Goron Caernarfon. Yn y cyfamser, mae cais  wedi cael ei wneud am adroddiad seiciatrig.

Bu farw Emma Jones, 31 oed, ar ôl cael ei thrywanu mewn digwyddiad ar stad o dai Trem yr Wyddfa ym Mhenygroes, Gwynedd yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn. Cafodd ei chludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.