Raymond Verheijen
Mae ymateb chwyrn wedi bod ar wefan gymdeithasol Twitter yn dilyn sylwadau gan is hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru, Raymond Verheijen, neithiwr.

Datgelodd Verheijen, sy’n drydarwr brwd, bod y Gymdeithas Bêl-droed yn cwrdd heddiw i drafod y dyfodol.

Aeth ymlaen i awgrymu mai dymuniad Gary Speed fyddai iddo efo gymryd yr awenau ar gyfer yr ymgyrch nesaf.

“Fory mae’r GBD yn cwrdd i drafod dyfodol Cymru, Gobeithio bydd y bwrdd yn parchu dymuniad Gary i Osian Roberts a minnau arwain y tîm i Frasil” meddai Verheijen yn ei neges gyntaf.

“Does dim angen rheolwr newydd gyda syniadau newydd. Mae ein llwyddiant wedi’i seilio ar strwythur clir Gary. Mae pawb yn gwybod beth sydd angen ar gyfer ymgyrch Brasil 2014.”

“Fisoedd yn ôl fe eisteddodd Rheolwr Gweithrediadau Cymru Adrian Davies gyda Gary a siarad am y dyfodol. Fe ofynnodd: beth os? Felly rydan ni’n gwybod beth i wneud.”

Mae’r sylwadau wedi ennyn ymateb chwyrn gyn nifer o sylwebwyr a chefnogwyr sy’n eu gweld yn amharchus o ystyried mai dim ond pythefnos sydd ers marwolaeth Gary Speed, a dim ond tridiau ers ei angladd.

Un sylwebydd sydd wedi ei siomi gan sylwadau Verheijen ydy’r cyn chwaraewr rhyngwladol, Iwan Roberts.

“Mae’r hyn mae o wedi rhoi fyny neithiwr yn gadael blas cas yn fy ngheg” meddai Roberts wrth y BBC bore ma.

“Mae rhai o’r pethau mae o wedi postio ar Twitter wedi fy synnu’n fawr. Hunanol iawn, iawn.”