Yn ol gohebydd CPD Yr Elyrch, Guto Llewelyn, roedd tim Brendan Rogers wedi llwyddo i ail-danio’r momentwm yn eu gem yn erbyn Fulham…

Heb fuddigoliaeth yn eu pump gêm diwetha, heb gôl gartref ers mis Hydref a heb ambell chwaraewr dylanwadol, gwyddai Brendan Rodgers bod yn rhaid ail-danio’r momentwm yn Abertawe.

Roedd perfformiad amddiffynnol echrydus yr Elyrch wythnos diwetha yn erbyn Blackburn yn ergyd i’r clwb ac ymatebodd Rodgers i’r golled drwy wneud newidiadau i’w dîm ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Fulham.

Dechreuodd Luke Moore, Steven Caulker ac Wayne Routledge yn lle Joe Allen (a oedd wedi ei wahardd yn dilyn carden goch yn erbyn Blackburn), Gary Monk a Nathan Dyer.

Hon oedd gêm gyntaf Caulker ers dau fis oherwydd anaf ac roedd ei bresenoldeb drws nesa i’r capten dros-dro, Ashley Williams, yn hwb mawr i’r cefnogwyr. Gwaetha’r modd,  nid oedd prif-sgoriwr yr Elyrch, Danny Graham, yn ddigon iach i ddechrau’r gêm, felly roedd yn rhaid iddo ddechrau ar y fainc.

Gan nad oedd Danny Murphy’n holliach dechreuodd cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Simon Davies i Fulham. Synnwyd pawb pan gyhoeddwyd nad oedd ymosodwr Fulham, Bobby Zamora, hyd yn oed ar y fainc.   Daeth i’r amlwg ar ôl yr ornest bod Martin Jol wedi dewis gadael Zamora yn Llundain, gan gefnogi’r straeon yn y wasg bod hyfforddwr Fulham wedi ffraeo â’i ymosodwr.

Roedd yn amlwg o’r gic agoriadol bod absenoldeb Zamora yn mynd i effeithio ar dactegau Fulham. Yn ddiweddar mae llawer mwy o glybiau yn cyrraedd Stadiwm Liberty gyda’r bwriad o amddiffyn yn ddwfn er mwyn cyfyngu ar gyfleoedd Abertawe.

Gweithiodd tactegau negyddol Fulham yn effeithiol; trwy gydol yr hanner cyntaf prin oedd y cyfleoedd a grewyd gan Abertawe. Yr unig dro y cynhyrfwyd y dorf oedd pan ergydiodd Luke Moore o bum llath ar hugain, ei gynnig nerthol yn hedfan ambell fodfedd dros drawsbren Mark Schwartzer.

Serch eu rheolaeth o’r meddiant dangosodd Abertawe ddiffyg dychymyg trwy gydol yr hanner cyntaf. Os oedd yr Elyrch am ennill y gem roedd galw am newid tactegau. Cyflymodd y tempo a dechreuodd Wayne Routledge herio amddiffynwyr Fulham, ond roedd y gwyr o Lundain yn dal i edrych yn gyfforddus.

Roedd angen ychydig o lwc ar dîm Brendan Rodgers, ac ar ôl 55 munud sgoriodd Abertawe gôl hynod o ffodus. Ni fedrodd yr ymwelwyr glirio cic gornel a tarodd Routledge y bêl nol i’r cwrt cosbi. Ergydiodd Scott Sinclair yn wan i gyfeiriad gôl Fulham. Gyda Schwartzer yn neidio i’r chwith, ymestynodd Clint Dempsey ei goes dde a gwyrodd y bêl heibio’r golwr, i gefn y rhwyd. Ceisiodd Sinclair hawlio’r gôl ond mae’n debygol mai Dempsey fydd yn cael ei enwi fel y sgoriwr.

Er mawr syndod i bawb yn y stadiwm, ysbrydolwyd Fulham gan y gôl. Ail-ddechreuodd Fulham y gêm gydag agwedd llawer mwy ymosodol, ac o fewn munud gallai’r clwb o Lundain fod wedi bod yn gyfartal. Pasiodd Dempsey y bêl o flaen Bryan Ruiz, a oedd wyneb yn wyneb â Michel Vorm. Arbedodd Vorm yn wych er mwyn rhwystro Ruiz, sydd yn addasu’n araf iawn i fywyd ym Mhrif Gynhrair Lloegr ar ôl gadael yr Iseldiroedd yn yr haf. Roedd wedi cymryd bron awr i Vorm wneud ei arbediad cyntaf, ond am weddill y gêm bu’n  rhaid i Vorm fod ar ei orau i rwystro Fulham.

Roedd yr ymwelwyr wedi atgyfnerthu ac o’r diwedd dechreuon nhw ddangos awch. Dirgrynnodd postyn Vorm yn dilyn cic-rydd rymus Riise. Arbedodd Vorm yn wych unwaith yn rhagor pan oedd wyneb yn wyneb ag Andy Johnson. Sbardunwyd Fulham gan gôl Abertawe, ac oni bai am Vorm buasai’r ymwelwyr wedi sgorio. Cyflwynodd Rodgers Kemy Augustien i’r gêm er mwyn ceisio rhwystro Fulham rhag pasio’r bêl yng nghanol y cae, ond bu bron iawn i’r eilydd amddiffynnol sgorio’i gôl gyntaf i’r clwb. Tarodd Augustien y postyn o ugain llath, gan gynyddu’r tensiwn yn Stadiwm Liberty. Gwastraffodd yr eilydd Danny Graham a Mark Gower gyfleoedd godidog i sgorio i Abertawe.

Dyfalbarhaodd Fulham a gyda llai na 10 munud yn weddill cawson nhw eu gobrwyo gyda chic o’r smotyn. Rhedodd yr eilydd, Frei, heibio Jazz Richards. Ymestynodd yr amddiffynnwr amhrofiadol ei droed dde a gwelodd Frei ei gyfle. Neidodd fel broga a dynododd y dyfarnwr gic o’r smotyn. Gwastraffodd Vorm gymaint o amser cyn sefyll ar ei linell, derbyniodd gerdyn melyn. Roedd helynt Vorm yn ddigon i roi pwysau ar Clint Dempsey. Brasgamodd yr Americanwr yn igam-ogam tuag at y smotyn cyn ergydio i’r chwith. Dyfalodd Vorm yn gywir a gwthiodd y bêl i ffwrdd o’i gôl. Dathlodd y cefnogwyr fel petai Abertawe wedi sgorio!

Ym munudau ola’r gêm cafodd y dorf hawl i ymlacio o’r diwedd pan rwydodd yr eilydd Danny Graham o gornel Gower. Cymerodd Gower y gic gornel yn gyflym, gyda Fulham dal yn trefnu. Roedd Graham dan bwysau anferthol gan Brede Hangeland ond serch ei bresenoldeb corfforol, llwyddodd Graham i droi ac anelu’r bêl i gefn y rhwyd.

Roedd wedi bod yn 90 munud anhygoel a chyffrous ond chwythodd y dyfarnwr y chwiban olaf a dathlodd y cefnogwyr cartref. Diolch i berfformiad anghredadwy Michel Vorm roedd Abertawe’n dathlu buddugoliaeth werthfawr. Rhagfyr yw un o gyfnodau mwyaf allweddol y tymor, ac mae Abertawe wedi dechrau’r mis gyda thriphwynt a pherfformiad neilltuol gan eu golwr.