Mae Siôn Corn yn siarad Cymraeg, yn byw ar Ynys Môn ac yn awyddus i gael sgwrs efo chi ar eich iPhone!
Mae Menter Iaith Môn wedi cynhyrchu APP Siôn Corn sy’n annog plant Cymru i fod yn blant da.
Drwy lawrlwytho’r APP, mae Siôn Corn yn ffonio ac yn cael sgwrs am bethau pwysig bywyd yr adeg yma o’r flwyddyn sef ei geirw, a’r pwysigrwydd o fod yn blant da bob amser er mwy sicrhau y bydd llwyth o anrhegion ar waelod y gwely ar Ddydd Nadolig.
“Dyma’r APP cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, ac mae’n wych ein bod wedi ei ddatblygu a’i gynhyrchu’n gyfangwbl oddi fewn gweithle Menter Môn yma yn Llangefni,” meddai Helen Thomas, Prif Swyddog Menter Iaith Môn.
Yr actor o Ynys Môn, J.O.Roberts yw llais Siôn Corn ac fe recordiwyd ei sgwrs mewn stiwdio recordio newydd sbon yn Llangefni. Mae Stiwdio 12 yn cynnig gwasanaeth recordio/cymysgu/meistroli proffesiynol i artistiaid a bandiau, gyda pheiriannydd sain ac amrywiaeth eang o offerynnau ar gael.
“Mae’r holl waith ar yr APP wedi digwydd ar Ynys Môn,” meddai Non ap Gwyn, Swyddog Iaith Menter Iaith Môn. “Mae’n ddyddiau cynnar gan mai dim ond ers dydd Mercher mae’r APP ar gael, ond mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn wych ac mae’n amlwg fod y plant yn mwynhau gwrando ar gyngor doeth Siôn Corn. Mae llais bendigedig ganddo ac er ei fod yn dod o Sir Fôn, dwi’n siŵr y bydd plant ar draws Cymru ddim yn cael unrhyw drafferth i’w ddeall!”
Mae’r APP ar gael am gost o 69c i’w lawrlwytho i’ch iPhone. Y linc ydi:
http://itunes.apple.com/us/app/sion-corn-yn-ffonio/id484941381?mt=8