Jamie Bevan ar y dde
‘Tocenistiaeth’ yw ychwanegu’r gair ‘Cymraeg’ i dudalen groeso gwefan cyngor sy’n uniaith Saesneg, meddai ymgyrchydd iaith wrth Golwg360.

Ers o leiaf pum mlynedd bellach mae Jamie Bevan o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi clywed addewidion y byddai fersiwn Gymraeg o wefan Cyngor Merthyr Tudful  yn cael ei chreu, meddai.

Heddiw mae’n cyfarfod aelodau Cyngor Merthyr i drafod y sefyllfa ynghyd â’u hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.

Mae’r neges canlynol wedi bod ar wefan y Cyngor ers bron i fis bellach: ‘Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir, er hynny, mae ein fersiwn Gymraeg o’n gwefan gorfforaethol yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, ac ni fydd ar gael nes yr hysbysir yn wahanol.
Mae dogfennau’r cyngor ar gael yn Gymraeg os gofynnir felly cysylltwch â’n Canolfan Gofal Cwsmeriaid os gwelwch yn dda, a fydd yn gallu eich cynorthwyo.’

Nid yw’r sefyllfa’n ddigon da, meddai Jamie Bevan.

“Mae ychwanegu’r gair ‘Cymraeg’ yn unig i’r dudalen groeso yn docenistiaeth – fe allan nhw wneud mwy. Maen hawdd i’r swyddog iaith ddweud eu bod am roi’r dudalen flaen i fyny dim ond gyda’r esboniad yma,” meddai Jamie Bevan. 

Cyhuddo’r cyngor o ddweud celwydd

Mae Jamie Bevan yn bwriadu sgwennu at yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus i gwyno am y cyngor.

“Does dim lot fedran nhw ddweud yn y cyfarfod heddiw i’n stopio i rhag danfon [cwyn]. Mae’r Cyngor yn dweud yn eu hadroddiadau swyddogol nhw ac i mi’n bersonol nad ydyn nhw wedi derbyn un gŵyn parthed eu gwasanaethau Cymraeg rhwng 2008 a 2010.

“Mae hyn yn gelwydd. Naill ai mae yna ddiffygion difrifol yn y ffordd maen nhw’n cofnodi cwynion neu mae’n ymdrech bwrpasol i gamarwain pobl. Dw i’n gwybod mod i wedi gwneud o leiaf tri chŵyn sydd ar record gen i yn ystod y cyfnod hwn,” meddai. 

“Yn y cofnod 2010-2011, maen nhw’n dweud mai dim ond dau gŵyn maen nhw wedi’i dderbyn. Ond dw i wedi bod yn casglu tystiolaeth o drigolion Merthyr i ddangos bod llawer mwy o gwynion wedi mynd i mewn. Mae ymgais yma i gamarwain Bwrdd yr Iaith a’r cyhoedd.

“Does dim llawer o obaith gyda chyfarfod heddiw. Dw i moyn clywed o’u cegau nhw pam nad ydyn nhw wedi gweithredu ar eu cynllun iaith o gwbl.”

‘Cyfieithu’

Eisoes, mae Cyngor Sir Merthyr Tudful wedi dweud wrth Golwg360 fis diwethaf eu bod yn mynd i’r afael â sefyllfa cyfieithu’r fersiwn Saesneg o’u gwefan – ar ôl i’w strategaeth wreiddiol o ddefnyddio Google Translate i gyfieithu’r safle brofi’n “anymarferol”.

Yn ôl llefarydd ar ran y Cyngor fis diwethaf – mae safle We Cymraeg y Cyngor “yn cael ei adeiladu”.

“Ein strategaeth wreiddiol oedd defnyddio Google Translate fel ffordd awtomatig o gyfieithu’r safle Cymraeg a hynny’n ddigost,” meddai llefarydd.“Fodd bynnag, mae hyn wedi profi’n anymarferol – nid am resymau technegol ond oherwydd ansawdd y Gymraeg a ddarperir gan Google Translate.

“Rydym wedi gwneud y penderfyniad busnes i dynnu’r fersiwn Google Translate i lawr. Rydym nawr yn mynd i’r afael â sefyllfa cyfieithu’r fersiwn Saesneg.”

Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Fis diwethaf, fe wnaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg gysylltu â Phrif Weithredwr Cyngor Merthyr “i ofyn am eglurhâd o’r sefyllfa”  ar ôl sylwi fod gwefan newydd Cyngor Merthyr yn uniaith Saesneg.

Mae’r Bwrdd wedi disgrifio’r sefyllfa bresennol fel bod yn “gwbl annerbyniol” ac wedi dweud ei fod yn  “codi cwestiynau ynghylch ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg.”

Mae Golwg360 yn disgwyl am ymateb Cyngor Merthyr i gwynion Jamie Bevan eu bod wedi methu cofnodi cwynion am natur ieithyddol eu gwefan.