Mae disgwyl i holl elfennau’r gaeaf daro Cymru dros y 24 awr nesaf, gyda rhybudd am lifogydd, gwynt ac eira  ar draws y wlad.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio pobol i fod yn barod am lifogydd yn nalgylch yr Efyrnwy, Afon Dyfi, ac yng Nghonwy heno, tra bod gwyntoedd cryfion wedi bod yn tynnu coed i’r llawr mewn rhannau o Wynedd.

Mae’r swyddfa dywydd wedi rhybuddio pobol i gadw llygad ar y rhagolygon cyn teithio, fel eu bod nhw’n gwybod os yw’r sefyllfa wedi gwaethygu cyn iddyn nhw fentro allan.

Mae disgwyl gwynt gorllewinol cryf ar draws Cymru heno, gyda’r tymheredd yn gostwng i ryw 1°C, ac mae disgwyl i eira ddisgyn ar dir uchel heno.

Eira’n cyrraedd yr Alban

Mae rhannau o’r Alban eisoes wedi cael eu gorchuddio gan eira, gan orfodi ysgolion i gau, atal llawer o drafnidiaeth, ac ysgogi rhybudd i yrrwyr i feddwl ddwywaith cyn teithio.

Mae gwyntoedd 70 i 85 milltir yr awr wedi taro canolbarth y wlad, ac mae’r heddlu wedi annog modurwyr i aros adref. Mae disgwyl i wyntoedd nerth corwyntoedd, dros 100 milltir yr awr, i daro’r wlad wrth iddi nosi.

Cafodd lori ei fwrw drosodd gan y gwynt ar yr A87 yn Ucheldiroedd  yr Alban heddiw, a chafodd bws ysgol ei chwythu drosodd ar yr A737 ger Dalry. Cafodd sawl un o’r teithwyr fân anafiadau.

Mae’r gwyntoedd cryf wedi cau bob un o brif bontydd yr Alban erbyn hyn, ac erbyn y prynhawn ’ma roedd y tywydd garw wedi effeithio ar drafnidiaeth yng ngogledd Lloegr hefyd. Cafodd yr A66, sy’n cysylltu Swydd Durham a Cumbria, ei gau i bob cerbyd oherwydd y gwyntoedd cryf, yn ôl yr heddlu.

Mae disgwyl i’r tywydd garw barhau hyd at y penwythnos.