Simon Richardson
Mae gyrrwr sydd wedi ei gyhuddo o daro seiclwr paralympaidd gan ei anafu’n ddifrifol, wedi ymddangos yn y llys am y tro cyntaf heddiw.

Cafodd Simon Richardson, 44 oed, o Borthcawl ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol ar ôl iddo gael ei daro gan fan tra’n seiclo yn ystod yr haf.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A48 ger Penybont ar Ogwr ar Awst 17.

Fe enillodd Simon Richardson ddwy fedal aur ac un arian yn Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008 ond ni fydd yn gallu cymryd rhan yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012 oherwydd ei anafiadau. Mae meddygon wedi dweud wrtho y gallai gymryd hyd at dair blynedd iddo wella’n llwyr.

Heddiw, aeth Edward Adams, 60, o Cross Farm, Y Bontfaen, o flaen ynadon Y Barri ar gyhuddiad o yrru’n beryglus, yfed a gyrru a methu ag aros ar ôl damwain.

Cafodd yr achos ei ohirio tan 18 Ionawr, 2012. Pan fydd Adams yn ymddangos yn Llys Ynadon Y Barri y tro nesaf fe fydd yr achos yn cael ei drosglwyddo i Lys y Goron Caerdydd.

Cafodd Adams ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.